Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS: LAUREN


Summary (optional)
start content

Mae Lauren yn ddynes 32 oed gyda nifer o rwystrau, gan gynnwys problemau iechyd, a oedd yn ei hatal rhag cael gwaith. Cafodd ei chyfeirio at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy yn ystod y cyfnod clo Covid cyntaf ym mis Mawrth 2020, gan y teimlwyd bod y Canolbwynt yn fwy addas i gynnig y cyngor a’r mentora ymroddedig roedd ei angen arni.

Roedd Lauren yn ceisio goresgyn ei rhwystrau ac roedd wedi cymryd y cam cadarnhaol o sicrhau lle yn y coleg i astudio am gymhwyster Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain.  Fodd bynnag, yn sgil Covid, darparwyd yr hyfforddiant ar lein ac roedd Lauren yn cael trafferth cadw ei bywyd ar y trywydd iawn.

Bu i Mel, mentor Lauren o Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy, adnabod ei phroblemau a thrafod y dewis o ohirio ei lle yn y coleg tan y byddai’n gallu dysgu wyneb yn wyneb unwaith eto, a chytunodd Lauren i wneud hynny.  Fodd bynnag, roedd eisoes wedi talu am ei hyfforddiant ac roedd methu â chael ei harian yn ôl yn achosi cryn straen iddi. Felly gweithiodd Mel gyda hi ar gysylltu â’r coleg, ac fe lwyddon nhw i gael ad-daliad iddi a chael gohirio ei lle yno am flwyddyn.

Mae Mel hefyd wedi sicrhau swydd wirfoddol i Lauren (sydd hefyd wedi’i gohirio yn sgil Covid) mewn sefydliad lleol sy’n cynnig gwasanaethau ar gyfer pobl fyddar, er mwyn i Lauren gael y profiad gwaith sydd ei angen arni i ymgeisio am swyddi ar ôl cwblhau ei chymhwyster Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain. Yn ogystal, mae wedi sicrhau lle iddi ar gwrs ar-lein wedi’i achredu sy’n ymwneud â lles a hyder, a chwrs celf greadigol sydd hefyd yn canolbwyntio ar les, ymlacio a hyder, ac mae Lauren wedi rhagori arno gan gynhyrchu gwaith celf hyfryd.

I helpu Lauren gyda’i phroblemau iechyd, mae Mel hefyd wedi bod yn cydweithio â’r Siop Cyngor ar Fudd-daliadau, sydd wedi helpu Lauren i wneud cais am “Daliad Annibyniaeth Bersonol’ a fydd o gymorth iddi gyda’i bywyd bob dydd yn sgil ei phroblemau symud.

Meddai Mel: “Mae’r trawsnewidiad yn Lauren wedi bod yn anhygoel.  Mae hi bellach yn hyderus ac yn gymdeithasol, ac ar ôl ennill cymaint o sgiliau newydd, mae ei bywyd yn ôl ar y trywydd iawn ac mae’n canolbwyntio ar y dyfodol llewyrchus sydd o’i blaen.”

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content