Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS: DAVID


Summary (optional)
start content

Roedd ar David angen cymorth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy i’w helpu i gael trwydded yrru Cerbyd Cludo Pobl (PVC) a gwaith fel gyrrwr coetsis. 

Roedd David wedi gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn y maes gofal cymdeithasol ers dros 20 mlynedd, felly penderfynodd adael er mwyn defnyddio ei amrywiaeth o sgiliau mewn sector arall. 

Llwyddodd i gael swydd fel gyrrwr bws dan hyfforddiant, dysgodd i weithio yn y depo ac ar y bysiau cyn dechrau hyfforddi i fod yn yrrwr bws.   Yn anffodus, methodd David ei brawf, ac yn sgil ymrwymiadau eraill, nid oedd wedi gallu ei ail-sefyll, felly cafodd ei ddiswyddo. 

Nid oedd David wedi bod yn ddi-waith o’r blaen, felly roedd yn awyddus iawn i fynd yn ôl i weithio a phenderfynodd ddilyn cyngor i gysylltu â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy i weld os gallant ei helpu i gael trwydded PCV (cerbyd cludo teithwyr gyda dros 16 o seddi).  

ynodwyd Lorraine fel mentor personol i David, a thrafodwyd ei gefndir, profiad, sgiliau a chymwysterau gyrru cyfredol a oedd yn cynnwys Trwydded Yrru Uwch, theori LGV (Cerbyd Nwyddau Mawr), canfod peryglon a thrwyddedau TCP, felly yr unig gefnogaeth yr oedd arno ei hangen oedd cyllid i gwblhau’r prawf. 

Rôl y Canolbwynt yw cefnogi pobl gyda hyfforddiant, datblygu sgiliau a dod o hyd i waith, a gan fod ganddynt gysylltiadau rhagorol gyda chyflogwyr yn yr ardal, awgrymodd Lorraine y dylai David holi cwmni coetsis lleol i weld a oedd ganddynt unrhyw gyfleoedd ar gael iddo.   

Mae Alpine Travel yn un o gwmnïau llogi coetsis moethus, busnes a gweithredol mwyaf blaenllaw y DU, sydd wedi’u lleoli yn Llandudno. Ar ôl clywed am brofiad David, roeddent yn awyddus iawn i gwrdd ag ef cyn gynted â phosibl.  Trefnwyd cyfarfod o fewn dyddiau, ac fe aeth y cyfarfod yn dda iawn felly cynigodd Alpine dalu 50% o gostau hyfforddi David a chytunodd y Canolbwynt i dalu’r gweddill.   O fewn tair wythnos, llwyddodd David i basio’r cwrs Gyrrwr Coetsis a chynigodd Alpine swydd llawn amser iddo fel gyrrwr coetsis. 

O fewn pedair wythnos i gysylltu gyda’r Canolbwynt, nid yn unig roedd David wedi pasi

end content