Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS: MARK


Summary (optional)
start content

Atgyfeiriwyd Mark at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy pan gychwynnodd y pandemig ar ôl colli ei swydd.  Bu’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch ond roedd yn teimlo bod y patrymau shifft gwahanol yn anodd eu trin, yn ogystal â diffyg sicrwydd o fod ar gontract dim oriau. 

Tra bod colli ei swydd a’i incwm wedi cael effaith ddinistriol arno, rhoddodd y cymhelliant i Mark edrych ar beth oedd wir eisiau ei wneud. Roedd yn benderfynol o gael ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch er mwyn iddo weithio yn y diwydiant diogelwch preifat.

Mae Awdurdod y Diwydiant Diogelwch yn gorff cyhoeddus sy’n rheoleiddio’r diwydiant hwn ac mae'n gosod meini prawf caeth i weithio yn y sector hwn.  Roedd Mark angen dilyn cwrs hyfforddiant arbenigol a gynhaliwyd gan sefydliad dyfarnu a phasio asesiadau gwybodaeth a sgiliau gan gynnwys Cymorth Cyntaf er mwyn cael ei drwydded.

Gyda chefnogaeth Susan, ei fentor, cofrestrodd Mark ar gwrs Goruchwyliwr Drws Lefel 2 Awdurdod y Diwydiant Diogelwch am wythnos yng Ngogledd Cymru. Roedd wedi'i ariannu'n llawn, a byddai’n caniatáu iddo weithio ar reng flaen mewn clybiau, gwyliau, cyngherddau, safleoedd manwerthu, safleoedd adeiladu a swyddfeydd.  Ar ôl ennill y cymhwyster hwn yn llwyddiannus, aeth Mark ar gwrs Gweithredwr CCTV Lefel 2, eto wedi ei ariannu’n llawn, i roi hyblygrwydd ychwanegol iddo allu gweithio mewn ystafell reoli yn monitro camerâu CCTV.

Gyda'r cymwysterau newydd hyn, bu i Mark a Susan weithio ar ddiweddaru ei CV a, gyda’i gilydd, dechreusant ymgeisio am swyddi diogelwch.  Daeth Mark o hyd i swydd mae’n ei garu yn sydyn iawn ac mae'n teimlo bod gweithio ym maes diogelwch wedi newid ei fywyd yn sylweddol.  Mae bellach ar gontract tymor penodol gyda phatrwm shifft sy’n galluogi iddo gael cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith tra'n ennill cyflog da.

Os hoffech i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content