Cyfeiriodd DWP Craig at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy gan y teimlwyd bod tîm y Ganolfan o fentoriaid a chynghorwyr ymroddedig yn fwy addas i'w helpu gyda'i broblemau iechyd meddwl a lles.
Yn ei arddegau, bu i Craig gyflawni troseddau a oedd yn dal i fod yn rhwystr iddo gael gwaith 20 mlynedd yn ddiweddarach, ac o ganlyniad, cafodd hyn effaith ar ei iechyd meddwl a'i ragolygon ar gyfer y dyfodol.
Er i Craig wneud cais am sawl swydd, roedd wastad yn cael ei wrthod ac roedd angen cymorth un i un arno. Penodwyd Mel yn fentor ar Craig gan Ganolbwynt Gyflogaeth Conwy ac fe aeth ati i egluro sut y gallai’r Canolbwynt ei helpu i gael swydd. Roedd hwn yn drobwynt i Craig, gan fod ganddo rhywun oedd yn credu ynddo ac yn fodlon ei helpu i ddod o hyd i waith cynaliadwy.
Gyda’i gilydd, fe fuon nhw'n gweithio ar gynllun i sicrhau profiad gwaith i Craig drwy wirfoddoli gyda Chydweithfa Crest, a fyddai’n cryfhau ei CV. Drwy weithio mewn partneriaeth â DWP, llwyddodd y Ganolfan i roi costau teithio i Craig ar gyfer ei gyfweliad gyda Crest, ac er y bu ei gyfweliad yn llwyddiannus, teimlai Craig y byddai’n well iddo ganolbwyntio ei egni ar chwilio am swydd gyflogedig.
Bu Mel a Craig yn gweithio ar ei CV, a gyda’i gilydd, aethant ati i ymgeisio am swyddi. Yn y cyfamser, mynychodd Craig gwrs hyfforddiant ailgylchu a gynhaliwyd gan Gydweithfa Crest a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Rhoddodd hyn brofiad a chymwysterau iddo a’i arweiniodd at waith llawn amser gyda chwmni ailgylchu lleol, a gyda chais llwyddiannus am arian rhwystrau, fe lwyddodd i brynu’r cyfarpar gwaith angenrheidiol.
Er gwaethaf gorffennol Craig, roedd cyfarwyddwr y busnes yn credu bod pawb yn haeddu ail gyfle, ac mae Craig wedi profi ei hun yn weithiwr caled sydd wir yn rhan o’r tîm.
Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.