Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS: LEE


Summary (optional)
start content

Roedd Lee wedi bod yn yrrwr bysiau a coetsys yn teithio ar draws y DU am 24 mlynedd ond roedd problem cefn difrifol yn golygu bod rhaid iddo roi gorau i’w waith, ac roedd wedi bod yn ddi-waith am 16 mis pan gofrestrodd ar gyfer Hwb Cyflogaeth Conwy ar y rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy.

Roedd gan Lee nifer o ddisgiau asgwrn cefn wedi chwyddo a oedd yn achosi poen acíwt ac yn anghyfforddus iddo, gan ei arwain at fod yn y tŷ am 15 mis, a chafodd hyn effaith ganlyniadol wrth iddo ddechrau dioddef o orbryder ac iselder cymedrol.  Roedd ei broblemau iechyd hefyd yn effeithio ar drefniadau gofalu am ei blant gan ei fod yn ymwybodol iawn nad oedd yn gallu gwneud y pethau roedd eisiau gyda nhw.

Ar ôl cofrestru i dderbyn cwrs o ffisiotherapi ar ei gefn, roedd Lee yn gwybod ei fod yn amser iddo ailddechrau ei yrfa.  Pan gysylltodd Lee â’r Hwb cafodd ei gyfeirio at Lorraine sef ei fentor dynodedig a gyda’i gilydd fe wnaethant ddechrau’r broses o gael gwaith iddo a fyddai’n ei alluogi i ddefnyddio ei sgiliau a’i brofiad.

Helpodd Lorraine greu CV cadarn i Lee ac fe wnaethant drafod ei brofiadau gwaith a bywyd a sut y gallai’r rhain gael eu trosglwyddo’n hawdd i sectorau busnes eraill. Ystyriodd Lee ei ddewisiadau a hysbysodd Lorraine yr hoffai weithio yn y sector gofal gan fod ganddo brofiad perthnasol o ofalu am ei fab sydd ag awtistiaeth, ac yn aml mae’r swyddi hyn yn fwy hyblyg felly gallent weithio o amgylch ei gyfrifoldebau gofal plant.

Yn ystod y trafodaethau hyn, roedd Lorraine yn synhwyro fod gan Lee cymaint i gynnig i gyflogwyr ond fod ganddo ddiffyg hunan-hyder i sicrhau swydd, felly fe gofrestrodd ef ar gyfer rhaglen Hyder yn dy hun yr Hwb wedi’i ariannu gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.  Mae’r prosiect cefnogi cyn-cyflogaeth hwn yn canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol, adeiladu cadernid a chynyddu hyder/hunan-barch, ac fe fwynhaodd Lee y cwrs a’r gweithgareddau’n fawr ac roedd gwelliant sylweddol i’w hyder a’i iechyd meddwl.

Wrth i Lee barhau gyda’i ffisiotherapi a’i ymarferion cefn, daeth yn amlwg na allai unrhyw swydd yn y sector gofal yn y dyfodol gynnwys codi gwrthrychau trwm.  Trefnodd Lorraine fod Lee yn cwrdd ag un o weithwyr cefnogi Gofal Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn darganfod mwy am eu gwaith a’r cyfleoedd ar gael iddo, ac ar ddiwedd y cyfarfod roedd Lee wedi penderfynu mai dyma’r cyfeiriad roedd am ei gymryd.

Helpodd Lorraine Lee i gwblhau ei ffurflen gais i ddod yn weithiwr cefnogi Gofal Cymdeithasol a gweithiodd gydag ef a’i fentor Hyder yn dy hun ar dechnegau cyfweliad, felly pan gafodd ei wahodd am gyfweliad roedd yn llwyddiannus a chafodd gynnig swydd.

Er bod Lee ond wedi gweithio yn ei swydd am lai na chwe mis, mae wrth ei fodd ac yn barod i wynebu unrhyw heriau newydd.

end content