Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

ASTUDIAETH ACHOS:MARIE


Summary (optional)
start content

Mae Marie yn rhiant sengl i ddau o blant bach ac mae’n dioddef gyda’i iechyd meddwl yn sgil gorbryder llethol.

Cyfeiriwyd Marie at Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy dan ofal Mel, sef un o fentoriaid profiadol y Canolbwynt.  

Bu i Mel gyfarfod â Marie am y tro cyntaf yn ei chanolfan gymunedol leol, ac roedd yn amlwg nad oedd yn gallu rheoli ei gorbryder.  Aeth Mel ati i gymryd camau bychain gyda Marie drwy gyfarfod â hi’n aml, ond dim ond am gyfnodau byr, i helpu datblygu ymddiriedaeth a chyfathrebu a fyddai’n arwain at ei gwneud yn fwy cyfforddus.  Er y bu'r cynllun hwn yn llwyddiannus, fe ganslodd Marie yr apwyntiadau nifer o weithiau oherwydd lefel ei gorbryder, ond daliodd Mel ati. Hyd yn oed pan darodd pandemig y Coronafeirws gan ein rhoi ni i gyd dan gyfnod clo, parhaodd Mel i gysylltu’n rheolaidd â Marie dros y ffôn.

Roedd y cyfnod clo’n anodd i’r rhan fwyaf o bobl, ond fe ffynnodd Marie drwyddo. Roedd yn ymddangos yn llawer mwy sefydlog ac yn llai pryderus, ac fe ddatblygodd ei hyder cymaint fel y bu iddi lwyddo i gysylltu â’i darparwyr cyfleustodau i drafod ei biliau a cheisio cymorth.  Roedd hwn yn gam mawr i Marie, ac fel y dywedodd Mel: "drwy wneud hyn ei hun, roedd yn gallu ei chanmol ei hun yn haeddiannol, sydd wedi rhoi hwb i’w hyder”.

O’r un cam hwn, datblygodd Marie i ddechrau chwilio am waith, a thrwy ei phenderfyniad a’i hysgogiad ei hun, cafodd ei derbyn ar gyfnod prawf i weithio mewn caffi.  Llwyddodd Mel i weithio gyda Marie ar sicrhau costau o’r gronfa rhwystrau i brynu dillad ac esgidiau addas i'r gwaith, yn ogystal â phàs bws.  Fe aeth y cyfnod prawf cystal fel y cynigiodd y cyflogwr swydd 16 awr yr wythnos i Marie, ac roedd ei rhieni’n fwy na bodlon gofalu am y plant iddi hi gael mynd i weithio.

Mae Marie bellach yn gweithio’n llawn amser ac yn ffynnu. Mae’n mwynhau pob eiliad o weithio mewn caffi prysur.

Os hoffech chi i ni eich helpu chi, ffoniwch ni ar 01492 575578.

end content