Bydd y sesiynau agored ar-lein misol hyn yn rhoi cyfle i arweinwyr lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, gwarchodwyr plant a staff ofyn cwestiynau am y ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, Pecyn Gwaith Conwy, Proffiliau Un Tudalen, strategaethau a chynllunio targedau camau bach i ddiwallu anghenion plant.
Mae gennym ddwy sesiwn alw heibio ym mis Mehefin lle byddwn yn canolbwyntio ar Sut i gwblhau Proffiliau Un Tudalen. Efallai y bydd yn rhywbeth newydd i rai ac yn sesiwn atgoffa i eraill.
Er nad oedd gofyniad i archebu lle ar gyfer y sesiynau hyn yn flaenorol, mae angen archebu lle ar gyfer y dyddiadau hyn. Yna bydd gweddill y sesiwn awr o hyd yn canolbwyntio ar eich ymholiadau yn unol â’r fformat arferol ar gyfer sesiynau Galw Heibio Swyddog Arweiniol ADY.
Bydd y Fforwm yn para awr ac yn cadw at reolau cyfrinachedd, Arfer Da a safonau proffesiynol uchel bob amser.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi y cwrs |
18/06/2025 |
6:15pm - 7:15pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Microsoft Teams |
Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol |
Am ddim |
24/06/2025 |
6:15pm - 7:15pm |
Hyfforddiant o bell dros y we drwy Microsoft Teams |
Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol |
Am ddim |