Manylion y Cwrs
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r Cwrs |
29/01/2024 Lefel Un - Rhan 1 30/01/2024 Lefel Un - Rhan 2 01/02/2024 Lefel Un - Rhan 3 (Rhaid mynychu’r bob ddyddiad) |
6.30 - 9pm |
Hyfforddiant ar-lein trwy Zoom |
Hyfforddwr Makaton Achrededig |
Am ddim |
06/02/2024 Lefel Un - Rhan 1 & 08/02/2024 Lefel Un - Rhan 2 (Rhaid mynychu’r ddau ddyddiad)
|
5 - 8.30 / 9pm |
Hyfforddiant ar-lein trwy Zoom |
Hyfforddwr Makaton Achrededig |
Am ddim |
20/02/2024 Lefel Un - Rhan 1 & 22/02/2024 Level Un - Rhan 2 (rhaid mynychu'r ddau ddyddiad)
|
5 - 8.30 / 9pm |
Hyfforddiant ar-lein trwy Zoom |
Hyfforddwr Makaton Achrededig |
Am ddim |
Nodau ac amcanion y cwrs
Mae’r llwybr hyfforddi Makaton yn cynnwys pedwar Gweithdy, yn dechrau gyda Lefel 1. Rhaid i bob lefel gael eu cwblhau cyn symud ymlaen i’r nesaf.
Mae Lefel 1 yn addysgu arwyddion a symbolau o gamau 1 a 2 yr Eirfa Graidd, gyda dros 100 o eiriau a chysyniadau er mwyn cefnogi cyfathrebu am anghenion uniongyrchol a gweithgareddau bob dydd person.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn dysgu beth yw Makaton a sut mae wedi datblygu, sut gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwahanol a’i berthynas gydag Ieithoedd Arwyddion a systemau cyfathrebu amgen a chynyddol.
Darperir y gweithdy yn fyw ar-lein a bydd yn cymryd oddeutu 7 awr a hanner. Rhaid gwneud yr hyfforddiant ar liniadur, cyfrifiadur personol neu gyfrifiadur llechen â chamera, meic a seinydd; nid yw ffonau clyfar yn addas.
Bydd dysgwyr yn derbyn Llawlyfr i Gyfranogwyr er mwyn cefnogi eu dysgeidiaeth yn ystod y gweithdy ac fe’i defnyddir fel cyfeirnod wrth fynd ymlaen, ynghyd ag adnoddau digidol ychwanegol a fideos o’r wyddor arwyddion Makaton/Iaith Arwyddion Prydain. Bydd pob dysgwr yn derbyn tystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs.