Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r cwrs |
4 Tachwedd 2025 (rhan 1) ac 11 Tachwedd 2025 (rhan 2) (rhaid mynychu'r ddau ddyddiad) |
6:45pm tan 8:30pm |
Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno |
Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol |
Am ddim |
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rhai hynny sy’n dymuno canfod ffyrdd mwy cadarnhaol o reoli ymddygiad plant yn gymdeithasol ac anghymdeithasol.
Cynnwys y cwrs
Rhan 1:
- Trosolwg byr ar seicoleg yn gyffredinol
- Trosolwg byr ar seicoleg ymddygiadol
Rhan 2
- Cyfle i edrych ar sefyllfaoedd presennol i ymarfer asesu’r ymddygiad a defnyddio Strategaethau perthnasol
- Trafod astudiaethau achos.
Ar ddiwedd y cwrs, bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Disgrifio’r prif ddulliau y gellir dysgu ymddygiad i blant
- Disgrifio’r dulliau y gellir annog ymddygiad da
- Disgrifio dull y gellir rheoli ac atal ymddygiad annerbyniol