Mae’r holl ddarparwyr gofal plant yng Nghonwy yn cael y cyfle i fynd i’n cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr, fodd bynnag mae’r cwrs newydd hwn yn cynnwys gofyniad ychwanegol ar y Swyddog Cymorth Cyntaf i gael y Dystysgrif Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle. Un cwrs, dwy dystysgrif.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn nodi bod “Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod gweithwyr yn cael cymorth ar unwaith os ydynt yn mynd yn sâl neu’n cael eu hanafu yn y gwaith.”
Mae'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig wedi'i ddylunio'n bennaf ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am blant dan 12 oed. Mae'r hyfforddiant yn 12 awr ac mae'n bodloni'r gofynion sydd eu hangen gan CIW ar gyfer lleoliadau cofrestredig yng Nghymru.
Wrth ddilyn y cwrs hwn byddwch yn:
- Deall rôl a chyfrifoldebau'r Swyddog Cymorth Cyntaf Pediatrig
- Gallu rhoi cymorth cyntaf i faban ac i blentyn
- Deall sut i adnabod arwyddion a symptomau, rhoi cymorth cyntaf brys i faban a phlentyn sydd â chyflwr meddygol cronig neu sy'n mynd yn sâl yn sydyn
- Deall sut i adnabod arwyddion a symptomau, rhoi cymorth cyntaf mewn argyfwng i faban a phlentyn sydd
Rhagofalon COVID-19:
- Gallu rhoi CPR yn ddiogel heb orfod dadebru o geg i geg gan ddefnyddio Masg Falf Bag (BVM)
- Cael gwared ar wastraff halogedig yn ddiogel
Dyma elfennau ychwanegol yn ymwneud â Chymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle sydd eu hangen i’ch cymhwyso ar gyfer y dystysgrif ychwanegol:
- Deall sut mae’r galon yn gweithio
- Gwahaniaeth rhwng angina a thrawiad ar y galon
- Hanes, arwyddion, symptomau a thriniaeth ar gyfer pwl o angina.Hanes, arwyddion, symptomau a thriniaeth ar gyfer trawiad ar y galon (hyd at 30 munud)
- Deall beth yw strôc yn yr ymennydd
- Y 2 wahanol fath o strôc
- Hanes, arwyddion, symptomau a thriniaeth ar gyfer strôc (hyd at 30 munud)
PMae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod yn abl yn gorfforol i wneud yr elfen adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR). Os bydd cyfranogwr yn methu cyflawni hyn, o dan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ni fydd yr elfen yn cyfrif tuag at gymhwyso fel swyddog cymorth cyntaf ar y safle, gan na fydd y safonau’n cyrraedd yr hyn a ddisgwylir o swyddog cymorth cyntaf, ac ni fydd yn derbyn tystysgrif.
Y gost am y ddau ddiwrnod yw £65.
Mae'n rhaid talu wrth archebu lle. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i dalu ffoniwch 01492 577862.
Sylwer hefyd y bydd cost ychwanegol o £20 os byddwch yn absennol neu'n canslo'n hwyr.
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Hyfforddwr | Ffi'r Cwrs |
27/04/2023 & 28/04/2023 |
9.15 yb - 4.45 yp |
Coed Pella, Bae Colwyn |
CCBC, Gwasanaethau Hamdden |
£65 |
28/06/2023 & 29/06/2023 |
9.15 yb - 4.45 yp |
Coed Pella, Bae Colwyn |
CCBC, Gwasanaethau Hamdden |
£65 |