Os oes cerbydau’n parcio ar draws eich dreif yn aml, efallai y byddwch eisiau gwneud cais am farciau gwarchod mynediad.
Marc gwyn ydi hwn, tebyg i briflythyren ‘H’ wedi’i hymestyn, sy'n cael ei baentio ar draws y fynedfa, a gall ymestyn hyd uchafswm o fetr y tu hwnt i derfynau’r fynedfa.
Yn wahanol i linellau melyn, nid yw’r marciau hyn yn waharddiad parcio ond yn hytrach yn tynnu sylw at fodolaeth mynediad i gerddwyr, beiciau neu gerbydau i’r briffordd.
Faint mae hyn yn ei gostio?
Mae cost sefydlog o £182.88 am osod y marciau.
Os hoffech drefnu i’ch mynedfa gael ei harchwilio neu holi ynghylch y gost ar gyfer eich dreif chi cysylltwch â'n tîm
Beth yw’r gyfraith o ran parcio ar draws dreif?
Mae’n drosedd parcio wrth ymyl palmant isel. Fodd bynnag, mae yna eithriadau sy'n caniatáu i yrrwr barcio o flaen eiddo preswyl gyda chaniatâd perchennog yr eiddo, ar yr amod nad oes unrhyw gyfyngiadau parcio ar y ffordd. Caiff gyrwyr hefyd stopio i lwytho a dadlwytho nwyddau.
Os byddwch angen rhoi gwybod am rwystr, ffoniwch yr heddlu ar 101.
Mae gan y Cyngor bŵer i orfodi’r gyfraith o ran “parcio ger palmant isel” sy'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod croesfannau cerddwyr, lonydd beicio a mynedfeydd busnesau’n cael eu cadw'n glir. Nid oes gennym unrhyw bwerau i symud cerbyd, dim ond i gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig.