Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Drychau ffyrdd


Summary (optional)
start content

Ar ffyrdd cyhoeddus

Ni chaniateir drychau ffyrdd neu draffig ar neu o amgylch ffyrdd cyhoeddus oni bai bod yna gofnod gwael o ddamweiniau ar y safle a bod pob ateb arall wedi’i archwilio. Mae gyrwyr yn gallu camddehongli yr hyn maent yn ei weld ac yn cymryd ei fod yn ddiogel pan nad ydyw. Mae tywydd gwael neu llystyfiant sydd wedi gordyfu hefyd yn effeithio ar adlewyrchiadau.

Ar dir preifat

Gall drych wella mynedfeydd i eiddo ble mae gwelededd yn wael, ond mae’n rhaid i’r drych fod ar dir preifat a:

  • chael ei osod y tu allan i derfynau’r Briffordd
  • ni ddylai achosi perygl i unrhyw ddefnyddiwr ffordd arall, naill ai oherwydd golau o adlewyrchiad goleuni'r haul, neu oleuadau lamp fin nos.
  • ddim yn hongian dros y briffordd a rhwystro cerbydau, cerddwyr neu farchogion
  • cael caniatâd y tirfeddiannwr
  • ni fydd costau nac atebolrwydd yn cael ei drosglwyddo i’r Awdurdod Priffordd

Os bydd drych yn achosi problemau i ddefnyddwyr ffordd, byddwn yn cadw’r hawl i’w symud.

Bydd unrhyw un sy’n gosod drych traffig yn atebol os bydd yna ddigwyddiad sy’n cael ei gysylltu â gosod y drych, hyd yn oed os bydd yn cydymffurfio â’r amodau uchod.

Rydym yn eich cynghori yn gryf i ymgynghori â’ch yswirwyr eich hun, i egluro eich sefyllfa bersonol os bydd hawliad yn cael ei wneud yn eich erbyn sy’n ymwneud â drych a osodwyd gennych chi.

end content