Rydym yn rhoi caniatâd i greu cyrbiau is (fe'u gelwir hefyd yn groesfannau cerbydau, mynediad cerbydau neu drawsgroesiad) at ddefnydd domestig a diwydiannol ar dir sydd yn rhan o'r briffordd gyhoeddus.
Eich cyfrifoldeb chi yw cael unrhyw ganiatâd arall sydd ei angen. Rydym yn eich cynghori’n gryf i wirio nad oes unrhyw dir rhwng eich eiddo chi a ffin y briffordd.
Mae ffi o £482 i brosesu eich cais Adran 184 (cyrb gostyngedig). Mae hyn yn cynnwys yr holl waith gweinyddol ac archwilio'r gwaith cyn, yn ystod ac ar ôl ei gwblhau.
Dogfennau cais:
Dylid anfon ffurflenni at y tîm Gwaith Stryd drwy e-bost i private.street.works@conwy.gov.uk, neu drwy'r post i Gwaith Stryd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG.
Cwestiynau ac atebion:
content
Byddwch angen cysylltu â'r Adran Gynllunio i weld a oes angen caniatâd cynllunio. Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob mynedfa ar ffordd wedi'i dosbarthu, felly hefyd ffyrdd eraill heb yr hawliau datblygu wedi’u cytuno.
Ni fyddwn yn caniatáu mynedfa newydd hyd nes y byddwch wedi cael caniatâd cynllunio gan yr Adran Gynllunio.
content
Gallwn, pe bai'r groesfan mewn lle peryglus. Gallai hyn fod wrth gyffordd, mewn man lle byddai'n anodd i bobl gael eu gweld neu safle bws.
Mae’n rhaid i chi gael lle o o leiaf 4.8 metr x 2.6 metr o fewn ffin eich eiddo (gyda'r hyd mwyaf ar ongl o 90 gradd (perpendicwlar) i’r briffordd.
content
Pan dderbyniwn eich ffurflen gais a’r holl wybodaeth angenrheidiol (yn cynnwys cadarnhad o ganiatâd cynllunio os oes ei angen) dylech ganiatáu 4 wythnos i'r cais fynd drwodd.
Yna bydd gennych 6 mis i wneud y gwaith. Ar ôl hynny bydd y caniatâd yn dod i ben a bydd angen i chi wneud cais eto.
Os ydym yn cymeradwyo eich cais byddwn yn rhoi manylion adeiladu safonol i chi.
content
Chi sy'n gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig â chreu’r cwrbyn is.
Os oes angen tynnu ceblau neu osod ceblau yn is, chi fydd hefyd yn gyfrifol am y gost ychwanegol.
content
Er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith yn diwallu’r gofynion perthnasol byddwn yn cynnal arolwg – mae cost hyn wedi’i gynnwys yn y ffi. Os bydd nam yn digwydd o fewn 2 flynedd, y contractwr fydd yn gyfrifol am ei drwsio.
content
Nid yw adeiladu cwrbyn is tu allan i'ch eiddo yn rhoi unrhyw hawliau penodol i chi, heblaw am i yrru dros y palmant i gael mynediad i'ch eiddo. Mae'r man croesi yn rhan o'r briffordd gyhoeddus.
content
Os ydym yn digwydd gwneud gwaith ar y briffordd y tu allan i’ch tŷ ac yn derbyn eich cais mewn da bryd efallai bydd yn bosibl creu cwrbyn is yn ystod y gwaith hwnnw.
Byddai tâl bychan am hyn.