Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwydded Adran 115E


Summary (optional)
Os hoffech chi ddefnyddio’r palmant at ddibenion busnes, mae’n rhaid ichi gael trwydded.
start content

Os hoffech chi ddefnyddio’r palmant at ddibenion busnes, mae’n rhaid ichi gael trwydded.

Faint mae’n ei gostio?

Mae’r drwydded yn rhad ac am ddim.

Sut ydw i’n gwneud cais?

  1. Holwch y tîm cynllunio i sicrhau nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud
  2. E-bostiwch affch@conwy.gov.uk i wneud cais am drwydded.

Rhaid ichi gynnwys:

  • Eich enw a’ch cyfeiriad
  • Pa weithgaredd y dymunwch ei gynnal a pha gyfarpar neu ddodrefn sy’n rhan o hynny
  • Union leoliad y man y dymunwch ei ddefnyddio
  • Cynllun ar raddfa neu gynllun dimensiwn o’r lleoliad sy’n dangos yn union lle byddwch yn cynnal y gweithgaredd arfaethedig.
  • Prawf o sicrwydd yswiriant gwerth £5 miliwn ar gyfer unrhyw hawliad unigol (dylech gynnwys eich tystysgrif yswiriant gyfredol yn hytrach na’r ddogfen polisi)
  • Am ba hyd y dymunwch gael y drwydded
  • Tystiolaeth i ddangos nad oes arnoch angen caniatâd cynllunio, neu’ch bod wedi'i gael.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwn yn adolygu’ch cais cyn pen deg diwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi gwybod ichi a ydym yn debygol o roi trwydded, neu’n gosod unrhyw amodau penodol arni.

Bydd yno gyfnod o 28 o ddiwrnodau pan fedr pobl gysylltu â ni os oes ganddynt unrhyw bryderon am eich cais.

Os na dderbyniwn unrhyw wrthwynebiad, byddwn yn rhoi trwydded ichi.

Os derbyniwn wrthwynebiadau neu bryderon am eich cais, ni allwn roi trwydded ichi.

Beth fydd yn digwydd wedi imi gael fy nhrwydded?

Bydd yn rhaid ichi gydymffurfio ag amodau a thelerau’r drwydded. Os byddwch yn torri’r amodau hynny gallwn gyflwyno rhybudd yn mynnu eich bod yn cywiro'r cam. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r rhybudd hwnnw gallwn weithredu ein hunain i gywiro’r cam ac adennill unrhyw gostau gennych chi.

Os na fyddwch yn cydymffurfio â thelerau’r drwydded gallwn ei diddymu yn ysgrifenedig.

Chi sy’n gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir i’r palmant gan y gweithgaredd y mae gennych drwydded ar ei gyfer. Byddwn yn archwilio cyflwr y palmant cyn dechrau cyfnod eich trwydded a phan ddaw i ben. Os bydd angen inni drwsio unrhyw beth a ddifrodwyd, chi fydd yn talu am hynny.

end content