Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cyrbiau Is (Cytundebau Adran 184)


Summary (optional)
Sut i gael caniatâd am gwrbyn is
start content

Rydym yn rhoi caniatâd i greu cyrbiau is (fe'u gelwir hefyd yn groesfannau cerbydau, mynediad cerbydau neu drawsgroesiad) at ddefnydd domestig a diwydiannol ar dir sydd yn rhan o'r briffordd gyhoeddus. Eich cyfrifoldeb chi yw cael unrhyw ganiatâd arall sydd ei angen. Rydym yn eich cynghori’n gryf i wirio nad oes unrhyw dir rhwng eich eiddo chi a ffin y briffordd.

Oes rhaid i mi gael caniatâd cynllunio?

Byddwch angen cysylltu â'r Adran Gynllunio i weld a oes angen caniatâd cynllunio. Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer pob mynedfa ar ffordd wedi'i dosbarthu, felly hefyd ffyrdd eraill heb yr hawliau datblygu wedi’u cytuno. Ni fyddwn yn caniatáu mynedfa newydd hyd nes y byddwch wedi cael caniatâd cynllunio gan yr Adran Gynllunio.

Fedrwch chi wrthod fy nghais?

Gallwn, pe bai'r groesfan mewn lle peryglus. Gallai hyn fod wrth gyffordd, mewn man lle byddai'n anodd i bobl gael eu gweld neu safle bws.

Mae’n rhaid i chi gael lle o o leiaf 4.8 metr x 2.6 metr o fewn ffin eich eiddo (gyda'r hyd mwyaf ar ongl o 90 gradd (perpendicwlar) i’r briffordd.

Faint mae'n ei gymryd i gais fynd drwodd?

Pan dderbyniwn eich ffurflen gais a’r holl wybodaeth angenrheidiol (yn cynnwys cadarnhad o ganiatâd cynllunio os oes ei angen) dylech ganiatáu 4 wythnos i'r cais fynd drwodd. Yna bydd gennych 6 mis i wneud y gwaith. Ar ôl hynny bydd y caniatâd yn dod i ben a bydd angen i chi wneud cais eto. Os ydym yn cymeradwyo eich cais byddwn yn rhoi manylion adeiladu safonol i chi.

Pwy sy'n gyfrifol am y peipiau a'r ceblau o dan y ddaear?

Chi sy'n gyfrifol am yr holl gostau sy'n gysylltiedig  

â chreu’r cwrbyn is. Os oes angen tynnu ceblau neu osod ceblau yn is, chi fydd hefyd yn gyfrifol am y gost ychwanegol.

Sut fyddaf yn gwybod os yw'r gwaith yn foddhaol?

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwaith yn diwallu’r gofynion perthnasol byddwn yn cynnal arolwg – mae cost hyn wedi’i gynnwys yn y ffi. Os bydd nam yn digwydd o fewn 2 flynedd, y contractwr fydd yn gyfrifol am ei drwsio.

Eich hawliau

Nid yw adeiladu cwrbyn is tu allan i'ch eiddo yn rhoi unrhyw hawliau penodol i chi, heblaw am i yrru dros y palmant i gael mynediad i'ch eiddo. Mae'r man croesi yn rhan o'r briffordd gyhoeddus.

Creu croesfan gerbydau yn ystod gwaith ar balmant

Os ydym yn digwydd gwneud gwaith ar y briffordd y tu allan i’ch tŷ ac yn derbyn eich cais mewn da bryd efallai bydd yn bosibl creu cwrbyn is yn ystod y gwaith hwnnw. Byddai tâl bychan am hyn.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â'r Adran Rheoli Datblygu ar 01492 575337 neu anfonwch e-bost at affch@conwy.gov.uk am gyngor ar y fanyleb i’w defnyddio. Os ydych yn anfon e-bost rhowch ‘Cyrbiau Is’ yn y blwch testun.

end content