Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Arwyddion Twristiaeth Brown

Arwyddion Twristiaeth Brown


Summary (optional)
Gwnewch gais am arwyddion twristiaeth brown i helpu ymwelwyr ddod o hyd i’ch atyniad neu gyfleuster.
start content

Ar gyfer beth y defnyddir arwyddion twristiaeth?

Mae arwyddion twristiaeth brown yn helpu pobl i ganfod eu ffordd yn ddiogel ar hyd y llwybr mwyaf addas i gyrchfannau twristiaeth.

Mae arwyddion twristiaeth yn cyfeirio twristiaid at atyniadau neu gyfleusterau:

Mae atyniadau’n cynnwys: canolfannau ymwelwyr, parciau thema, adeiladau hanesyddol, amgueddfeydd, sŵau, parciau a gerddi, atyniadau naturiol, ardaloedd o ddiddordeb arbennig, orielau, canolfannau hamdden, neuaddau cyngerdd, theatrau a sinemâu.

Cyfleusterau yw: meysydd carafanau teithiol a gwersylloedd, safleoedd picnic a chanolfannau croeso a phwyntiau gwybodaeth i dwristiaid. Rydym hefyd yn ystyried gwestai, tai llety a lleoliadau gwely a brecwast, tafarndai, bwytai a pharciau gwyliau anghysbell (os yw'r lleoedd hyn y tu allan i ffin y pentref neu'r dref).

Os hoffech arwyddion ar yr A55, A470 neu’r A5 dylech edrych ar wefan Llywodraeth Cymru. http://www.legislation.gov.uk/cy/all 

A yw fy musnes yn gymwys?

Mae’n rhaid i'ch atyniad neu'ch cyfleuster:

  1. Gael ei gydnabod gan Croeso Cymru neu sefydliad a gymeradwyir gan Croeso Cymru.
  2. Bod â digon o le i barcio ar y safle neu'n agos at yr atyniad.
  3. Cynnwys cyfarwyddiadau i'r atyniad, gan gynnwys map, yn eich deunyddiau hysbysebu.
  4. Darparu gwasanaeth neu adloniant fel prif bwrpas
  5. Cael caniatâd cynllunio perthnasol ar gyfer y busnes.

Mae meini prawf penodol hefyd ar gyfer rhai cyfleusterau i dwristiaid;

  • Mae’n rhaid i wersylloedd sy’n derbyn pebyll fod â thrwydded o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 ac o leiaf 20 llain ar gyfer defnyddwyr dros nos achlysurol.
  • Mae’n rhaid i safleoedd carafanau teithiol fod â thrwydded o dan Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 ac o leiaf 20 llain ar gyfer defnyddwyr dros nos achlysurol.
  • Mae’n rhaid i farinâu fod â mwy na 100 o ddocfeydd ac 20 ar gyfer marinâu camlas.

Sut allaf wneud cais am arwyddion twristiaeth?

Gallwch wneud cais dechreuol drwy glicio ar y botwm isod. Bydd eich cais yn cael ei asesu i benderfynu a fyddai gosod arwyddion twristiaeth yn addas ac yn briodol.  Rhoddir ystyriaeth i ddiogelwch ar y ffyrdd, rheoli traffig ac effaith weledol. Bydd rhywun o’n tîm yn cysylltu â chi i gwblhau’ch cais.

Bydd costau arwyddion yn dibynnu ar nifer yr arwyddion, eu lleoliad a’r dyluniadau a ddewisir. Cyn i ni ddechrau unrhyw waith ar yr arwyddion, byddwn yn rhoi dyfynbris i chi o unrhyw gostau y bydd angen i chi eu talu.

 

Pwy fydd yn gyfrifol am yr arwyddion ar ôl iddynt gael eu gosod?

Bydd yr arwyddion yn dal i fod yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Os bydd angen gosod arwydd newydd oherwydd traul cyffredinol neu os yw amgylchiadau’r busnes wedi newid, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi wneud cais newydd.

Os oes angen arwyddion newydd oherwydd newidiadau priffyrdd, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn talu’r costau.

Os nad yw’r busnes bellach yn ateb y meini prawf cymhwyso ar gyfer arwyddion brown, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadw’r hawl i dynnu’r arwyddion ar gyfer yr atyniad neu’r cyfleuster ac yn gofyn i’r busnes dalu’r holl gostau a ysgwyddir.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cadw’r hawl i adolygu’r arwyddion mewn ardal arbennig yn ôl yr angen.

end content