Sut i wneud cais
Bydd rhaid i unrhyw un neu ddatblygwr sy’n dymuno cynnig enw / rhif tŷ / enw stryd newydd neu ei newid o fewn y Fwrdeistref Sirol, ddarllen y Polisi Enwau a Rhifo Strydoedd (PDF, 162 Kb), ac o fewn y canllawiau yn cyflwyno ei gynnig/chynnig yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen briodol, ynghyd â chynllun safle yn nodi lleoliad y stryd yn glir.
Cynghorir unigolion neu ddatblygwyr sy'n cyflwyno cynigion o'r fath yn gryf i ymgynghori ymlaen llaw â'r Uned, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro gydag enwau strydoedd presennol. Yn benodol, cynghorir datblygwyr tai newydd, ar ôl cael caniatâd cynllunio, i geisio ymgynghori'n gynnar gyda'r Uned ynglŷn â threfniadau rhifo tai ac enwau strydoedd.
Enwi/ Ailenwi Tŷ
Os yw eiddo eisoes wedi’i rifo, gall perchennog yr eiddo enwi eu heiddo hefyd heb gysylltu â'r Cyngor cyn belled nad ydyw’n gwrthdaro ag enw eiddo presennol yn yr ardal honno. Ni fydd enw’r eiddo yn yr achos hwn yn rhan o gyfeiriad yr eiddo yn swyddogol, ac mae’n rhaid dangos a chyfeirio at rif yr eiddo bob amser mewn unrhyw ohebiaeth.
Byddwch ond angen gofyn am ganiatâd gan y Cyngor os nad oes rhif yn y cyfeiriad swyddogol (er enghraifft os yw'r eiddo wedi cael enw fel rhan o'i gyfeiriad swyddogol).
Yn achos cyfeiriadau lle nad oes rhif wedi ei roi, mae’r enw a ddyrannwyd yn rhan o'r cyfeiriad swyddogol. Yn yr achos hwn mae angen i berchnogion eiddo sydd am newid enw’r eiddo gyflwyno eu cais yn ysgrifenedig, gan nodi eu henw, cyfeiriad llawn presennol yr eiddo a datgan eu henw newydd y maent am ei ddewis yn glir.
Datblygiad Newydd (Preswyl) a Datblygiad Newydd (annomestig)
Os ydych yn datblygu eiddo newydd / datblygiad bychan neu stad fawr, dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio ar y safle er mwyn i ni allu prosesu enwau a rhifau eiddo a strydoedd newydd. Byddwn yn gwirio’r enwau a awgrymoch rhag ofn y bydd dyblygu yn yr ardal leol, ac yn eu hanfon ymlaen at y Post Brenhinol ar gyfer ymgynghori.
Hefyd, anfonir copi o'r enw ar atodlen rifo atoch, ac yna byddem yn gofyn i chi roi gwybod i'ch holl brynwyr bwriedig o gyfeiriad eu heiddo newydd.
Lle bo'n briodol, bydd gofyn i chi ddarparu platiau enwau strydoedd newydd i'n dyluniad, manyleb safonol a bydd cost yn cael ei ddarparu ar yr adeg briodol.
Ffioedd
Deddfwriaeth ac Amodau
Prosesu ac Amserlenni
Pan fyddwn wedi cytuno ar enw/ rhifau, byddwn wedyn yn cofrestru enw(au)'r stryd ac yn paratoi atodlen rifo lle bo hynny’n briodol.
Yna, caiff yr wybodaeth ei hanfon i gyfleustodau cyhoeddus, gwasanaethau brys, y Gofrestrfa Dir, yr Arolwg Ordnans a'r Gwasanaethau Cyngor perthnasol o fewn mis i gwblhau’r cais.
Dulliau Apelio / Unioni:
Apelio i'r llys Ynadon.
Manylion cyswllt:
Gallwch wneud eich cais:
- Drwy e-bost: trwyddedu@conwy.gov.uk
- Yn bersonol: Drwy apwyntiad – mae’r swyddfeydd ar agor o 9.00am - 4.00pm Dydd Llun i ddydd Gwener
- Dros y ffôn: 01492 576626
- Drwy ffacs: 01492 574036
- Drwy'r post:
Adain Drwyddedu
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN