Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Newidiadau i drin taliadau gydag arian a siec
start content

O 1 Hydref 2018, ni fydd Gwasanaethau Rheoleiddio a Thai yn derbyn taliadau wyneb yn wyneb gydag arian parod na sieciau yn y prif Swyddfeydd Corfforaethol yng Nghoed Pella.  Dim ond taliadau wyneb yn wyneb gyda chardiau debyd a chredyd a dderbynnir yn y prif Swyddfeydd Corfforaethol o’r dyddiad hwn ymlaen. 

Ewch i wefan y Cyngor ar www.conwy.gov.uk/taliadauarlein neu i ap Conwy ar eich dyfais symudol ar gyfer yr ystod lawn o gynnyrch a gwasanaethau y gallwch eu talu ar-lein ar unrhyw adeg.

Yn ogystal â hynny, ewch i wefan y cyngor ar www.conwy.gov.uk/talu ar gyfer yr ystod lawn o gyfleusterau talu sydd ar gael gan yr Awdurdod.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â trwyddedu@conwy.gov.uk

end content