Ar hyn o bryd rydym yn cynnal arolwg i benderfynu ar ddyfodol Best Bar None, os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â ni ar trwyddedu@conwy.gov.uk.
Cafodd goreuon bywyd nos Conwy eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ddydd Llun 25 Tachwedd 2019 wrth i enillwyr y Gwobrau Braf Bob Nos rhanbarthol gael eu cyhoeddi.
Mae Braf Bob Nos yn gynllun achredu sydd wedi’i gefnogi gan y Swyddfa Gartref a’r diwydiant diodydd, a'i fwriad yw hyrwyddo safleoedd sydd â thrwyddedau gwerthu alcohol gael eu rheoli a'u gweithredu'n gyfrifol. Mae’r cynllun bellach yn gweithredu ers chwe mlynedd.
Mae safleoedd achrededig yn sicrhau lleoliad diogel i’w fwynhau ar noson allan, sy’n hanfodol er mwyn twf economaidd a chynaladwyedd y rhanbarth.
Mae cyfanswm o 33 o dafarndai, barau a mannau hamdden yn y rhanbarth yn rhan o'r cynllun ac fe gwblhaodd pob un asesiadau trylwyr yn gynharach eleni i ddangos eu bod yn cwrdd â'r safonau rheoli safle uchel sy'n ofynnol gan y cynllun Braf Bob Nos.
Mae 26 o safleoedd wedi cael achrediad lefel aur, 2 lefel arian ac 1 lefel efydd. Mae 4 safle arall yn disgwyl am eu hachrediad.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ym Mharc Gwyliau Golden Sands lle cyflwynwyd gwobr y Prif Enillydd i Club 147.
Cyflwynwyd gwobrau mewn categorïau eraill i:
- Rhos Fynach – y Dafarn Orau
- Club 147 – y Bar Gorau
- The Beachcomber Club – y Lleoliad Hamdden Gorau
- The George & Dragon, Abergele – Tafarn Gymunedol Orau
- Y Gloch Las – y Wobr Werdd
Isod mae rhestr o leoliadau sydd wedi’u hachredu ar draws Sir Conwy:
- Llandudno - Town House, The Cross Keys, The Irish Bar, The Palladium, Bwyty the Lilly gydag ystafelloedd, Club 147, The Carlton, The Fat Cat, the Gresham
- Conwy – Y Gloch Las, Bank of Conwy.
- Llanddulas – The Beachcomber Club
- Bae Colwyn / Hen Golwyn – Gwesty’r Marine, The Picture House, Rhos Fynach, Parc Eirias.
- Abergele – The George & Dragon, The DPL Wine Bar & Grill.
- Bae Cinmel – Parc Gwyliau Golden Sands, The Mayquay, Palins Country Club
- Towyn - The Long Bar, Parc Gwyliau Lyons Winkups, Parc Gwyliau Lyons Oakfield, The Seagull, Jakes Family Restaurant & Bar, Golden Gate Club, Browns Bar & Grill.
Am fwy o wybodaeth a chyngor ar gynllun Braf Bob Nos cysylltwch:
- Dros y Ffôn: 01492 576626
Dydd Llun i Ddydd Iau 10.00 i 12:30
Adain Drwyddedu,
Blwch Post 1,
Bae Colwyn,
LL29 0GG