Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Trwydded Amgylcheddol

Trwydded Amgylcheddol


Summary (optional)
Rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol os ydych yn gweithredu cyfleuster rheoledig yng Nghymru neu Lloegr.
start content

Pwrpas gorfodi Atal a Rheoli Llygredd Awdurdod Lleol (LAPPC) ac Atal a Rheoli Llygredd mewn Ffordd Integredig Awdurdod Lleol (LA-IPPC) yw amddiffyn a gwella pob rhan o’r amgylchedd ac atal niwed i iechyd dynol.  Yn arbennig, trwy atal neu leihau sylweddau sy’n llygru’r aer (ar gyfer gweithfeydd rheoledig LAPPC) ac sy’n llygru aer, tir a dŵr (ar gyfer gweithfeydd LA-IPPC) rhag cael eu rhyddhau o weithgareddau rhagnodedig penodol.

 

A oes angen y drwydded hon arnaf ac a ydw i'n gymwys?

 Mae cyfleuster rheoledig yn cynnwys:

  • gweithfeydd neu offer symudol sy'n cyflawni gweithgareddau a restrir
  • gweithrediadau gwastraff
  • offer symudol gwastraff
  • gweithrediadau gwastraff cloddio

 

Mae'r gweithgareddau a restrir yn cynnwys:

  • ynni - llosgi tanwydd, nwyeiddio, cyddwyso hylif a gweithgareddau puro
  • metelau - gweithgynhyrchu a phrosesu metelau
  • mwynau - gweithgynhyrchu calch, sment, cerameg neu wydr
  • cemegau - gweithgynhyrchu cemegau, cynhyrchion fferyllol neu ffrwydradau, storio cemegau swmpus
  • gwastraff - llosgi gwastraff, gweithredu safleoedd tirlenwi, adfer gwastraff
  • toddyddion – defnyddio toddyddion
  • eraill - gweithgynhyrchu papur, mwydion a byrddau coed, trin cynnyrch coed, caenu, trin tecstilau ac argraffu, gweithgynhyrchu teiars newydd, ffermio moch a dofednod dwys

 

Mae trwyddedau Rhan A yn rheoli gweithgareddau sydd ag ystod o effeithiau amgylcheddol, gan gynnwys:

  • allyriadau i aer, tir a dŵr
  • effeithlonrwydd ynni
  • lleihau gwastraff
  • defnyddio deunyddiau crai
  • sŵn, dirgryniad a gwres
  • atal damweiniau

 

Mae trwyddedau Rhan B yn rheoli gweithgareddau sy'n achosi allyriadau i’r aer.

Mae’r drwydded sydd ei hangen ar eich busnes yn dibynnu ar y prosesau penodol dan sylw a'r allyriadau a grëir o ganlyniad.

Mae trwyddedau ar gael gan Asiantaeth Yr Amgylchedd neu’ch awdurdod lleol (y rheolydd) yn dibynnu ar gategori’ch busnes:

  • Caiff gweithfeydd neu offer symudol Rhan A(1) eu rheoleiddio gan Asiantaeth Yr Amgylchedd
  • Caiff gweithfeydd neu offer symudol Rhan A(2) a Rhan B eu rheoleiddio gan yr awdurdod lleol, ar wahân i weithrediadau gwastraff a gyflawnir mewn gweithfeydd Rhan B sy’n cael eu rheoleiddio gan Asiantaeth yr Amgylchedd
  • caiff gweithrediadau gwastraff neu offer symudol gwastraff a gyflawnir mewn mannau heblaw am weithfeydd, neu gan offer symudol Rhan A neu Ran B eu rheoleiddio gan Asiantaeth Yr Amgylchedd
  • caiff gweithrediadau gwastraff cloddio eu rheoleiddio gan Asiantaeth Yr Amgylchedd

 

Beth sy’n rhaid i chi ei wneud?

Rhaid gwneud ceisiadau ar y ffurflen a ddarperir gan y rheolydd, neu ar-lein a rhaid cynnwys y wybodaeth a nodir a fydd yn amrywio yn dibynnu ar y math o weithrediad. 

Rhaid i weithredwr y cyfleuster rheoledig gyflwyno’r cais. 

Os bydd angen gwybodaeth bellach, bydd y rheolydd yn hysbysu'r ymgeisydd a bydd yn rhaid darparu'r wybodaeth hon neu bydd y cais yn cael ei dynnu'n ôl. 

Ar gyfer gweithrediadau gwastraff ni roddir trwydded oni bai fod unrhyw ganiatâd cynllunio gofynnol wedi’i ganiatáu yn gyntaf. 

 

Beth sy’n rhaid i ni ei wneud?

Bydd y rheolydd yn rhoi ystyriaeth i warchod yr amgylchedd yn gyffredinol trwy, yn arbennig, atal neu, os nad yw hynny’n ymarferol, gostwng allyriadau i aer, dŵr a thir.

Gall y rheolydd hysbysu’r cyhoedd o’r cais a rhaid iddo roi ystyriaeth i unrhyw sylwadau                                          

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Rhaid i’r rheolydd fod yn fodlon y byddant yn gweithredu’r cyfleuster yn unol â'r drwydded amgylcheddol.  Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel petai’ch cais wedi’i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Rhaid i’r awdurdod, er lles y cyhoedd, brosesu’ch cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, llenwch ein ffurflen ar-lein i gysylltwch â ni. 

 

Gwybodaeth Ddefnyddiol:

  • Cymdeithasau Masnach - Ffederasiwn Cymdeithasau Masnach Amgylcheddol (FETA)
  • Cymdeithasau Masnach Amgylcheddol (FETA)
  • Comisiwn Diwydiannau Amgylcheddol
  • Cymdeithasau Gwasanaethau Amgylcheddol

 

Dulliau unioni:

Os caiff cais am drwydded amgylcheddol ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio i’r awdurdod priodol. Yr Ysgrifennydd Gwladol yw’r awdurdod priodol yn Lloegr a Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol yng Nghymru. Rhaid cyflwyno apeliadau cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad y penderfyniad.   

Os caiff cais i amrywio, trosglwyddo neu ildio trwydded amgylcheddol ei wrthod neu os yw’r ymgeisydd yn gwrthwynebu amodau’r drwydded amgylcheddol, gall apelio i’r awdurdod priodol.

Rhaid cyflwyno apeliadau sy’n ymwneud ag amrywiad a gyflwynwyd gan y rheolydd, hysbysiad gwahardd neu hysbysiad gorfodi cyn pen dau fis ar ôl dyddiad yr amrywiad neu’r hysbysiad ac mewn unrhyw achos arall cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad y penderfyniad.

 

Manylion Cyswllt

Gwasanaethau Rheoleiddio
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN


Ar-lein

Rhif Ffôn: 01492 575187
Ffacs: 01492 575204

end content