Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Trwydded Siop Rhyw ac Adloniant Oedolion

Trwydded Siop Rhyw ac Adloniant Oedolion


Summary (optional)
I redeg siop ryw – h.y. unrhyw safle sy'n gwerthu teganau, llyfrau neu fideos rhyw - efallai y bydd angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol arnoch chi. I redeg lleoliad lle mae ffilmiau dinoethol yn cael eu dangos i aelodau o'r cyhoedd, mae angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol arnoch hefyd.
start content

Sut i wneud cais

Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chynnwys unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol.

Rhaid i ymgeiswyr roi rhybudd cyhoeddus o’u cais trwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol.

Ffioedd

Trwydded Ffi 
Sinema rhyw  £1,200.00
Caniatáu Siop Rhyw £1,200.00
Costau gweinyddol wrth ystyried cais o'r fath, boed a yw wedi’i dynnu'n ôl, wedi’i gymeradwyo, neu wedi’i wrthod, sy'n cyfateb i 25% £455.00
 Adnewyddu (os nad oes gwrthwynebiad) £455.00


Cymhwyster

Rhaid i’r ymgeisydd fod:

  • o leiaf 18 mlwydd oed
  • heb gael ei anghymhwyso rhag dal trwydded     
  • wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf chwe mis yn union cyn y cais neu, os yw’n gorff corfforaethol, rhaid iddo gael ei ymgorffori yn y DU
  • ni ddylai fod wedi cael gwrthod caniatâd neu adnewyddiad trwydded ar gyfer y safle dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf, oni bai bod y gwrthodiad wedi'i wrthdroi ar apêl

Deddfwriaeth ac Amodau

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Prosesu ac Amserlenni

Byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod.

Dulliau Apêl / Gwneud Iawn:

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir ei drwydded, neu a wrthodir adnewyddu ei drwydded, o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am y penderfyniad i wrthod, apelio i'r llys ynadon lleol.

Fodd bynnag, nid yw'r hawl i apelio yn gymwys os yw'r drwydded yn cael ei gwrthod ar y sail bod:

  • nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn uwch na'r nifer y mae'r awdurdod yn ei ystyried yn briodol     
  • byddai caniatáu'r drwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur safleoedd eraill yn yr ardal, neu'r safle ei hun
  • Oni bai gall yr ymgeisydd ddangos na ddylai’r seiliau hyn fod yn gymwys iddo
  • Gall deiliad trwydded sydd am apelio yn erbyn amod, apelio i lys ynadon lleol.

Gall deiliaid trwydded ar unrhyw adeg wneud cais i'r awdurdod am amrywiad o'r telerau, amodau neu gyfyngiadau ar eu trwydded.

Os bydd cais am amrywiad yn cael ei wrthod, neu os yw'r drwydded yn cael ei diddymu, gall deiliad y drwydded, o fewn 21 diwrnod o gael gwybod am osod, neu wrthod amrywio telerau, amod neu gyfyngiad dan sylw, neu o’r diddymiad, apelio i lys ynadon lleol.

Gall deilydd trwydded hefyd apelio i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon.

Gall unrhyw berson sy'n dymuno gwrthwynebu cais am roi, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded, roi rhybudd ysgrifenedig o'u gwrthwynebiad i'r awdurdod perthnasol, gan nodi seiliau’r gwrthwynebiad, o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y cais. 

Manylion cyswllt:

Gallwch wneud eich cais:

Yn bersonol:

Drwy apwyntiad: mae’r swyddfeydd ar agor o 10.00am - 4.00pm Dydd Llun i ddydd Gwener

Coed Pella
Conway Road
Colwyn Bay
LL29 7AZ

Drwy'r post:

Adain Drwyddedu
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

Ffurflen Gais Trwydded Siop Ryw (ffeil Word)

end content