Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Buddion Staff

Buddion Staff


Summary (optional)
Cydnabyddwn mai’r bobl yr ydym yn eu cyflogi sy’n gyfrifol am ein llwyddiant, ac yr ydym yn ymroddedig i werthfawrogi ein tîm. Yr ydym wedi datblygu pecyn buddion gwych, sydd wedi ei gynllunio i ddileu llawer o’r pryderon dyddiol y gall bywyd modern eu hachosi i bobl.
start content
Conwy Scene Family-01

Cydbwysedd Gwaith / Bywyd


Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd gwaith / bywyd cadarnhaol ac iach.

Bydd ein gweithwyr ni yn cael 8 gŵyl banc y flwyddyn a hawl i'r gwyliau canlynol:

  • Ar ôl penodi - 26 diwrnod
  • Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus - 31 diwrnod
  • Ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth parhaus - 33 diwrnod
  • Penaethiaid Gwasanaeth/Cyfarwyddwyr Strategol - 33 diwrnod

Bydd gwyliau blynyddol a gwyliau banc gweithwyr rhan amser yn cael eu cyfrifo ar sail pro rata. Mae pro rata yn golygu bod eich gwyliau’n cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y nifer o oriau rydych yn gweithio.

(Gall Athrawon a Gweithwyr Ieuenctid amrywio)

Yn dibynnu ar eich swydd, gallech hefyd fanteisio ar rai o'r opsiynau gweithio hyblyg yn cynnwys:

  • Rhannu Swydd, gweithio oriau llai a rhan amser
  • Contractau tymor ysgol yn unig
  • Oriau cywasgedig
  • Cynllun oriau hyblyg
  • Polisi sy’n ystyriol o deuluoedd a pholisi absenoldeb arbennig

 

Cycling

Iechyd a Lles


Mae eich Iechyd a’ch lles chi yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant lle caiff iechyd a lles gweithwyr ei gefnogi.

I'ch helpu, rydym yn cynnig:

  • Tâl salwch galwedigaethol
  • Mynediad am ddim 24/7 i Raglen Cymorth Gweithwyr sy’n darparu cyngor a chwnsela
  • Mynediad am ddim i ap lles rhyngweithiol Eich Gofal
  • Prawf llygaid am ddim a sbectolau i ddefnyddwyr Offer Sgrin Arddangos
  • Aelodaeth Ffit Conwy am bris gostyngol
  • Cynllun Prydles Beicio i'r Gwaith* i gael mynediad at arbedion gwych wrth wella iechyd
  • Polisi Rheoli Presenoldeb cynhwysfawr i gefnogi a chynorthwyo unigolion yn y gwaith, yn ystod cyfnodau o absenoldeb salwch ac wrth ddychwelyd i'r gwaith.
  • Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol
  • Mynediad at Ffisiotherapi Mynediad Cyflym
  • Cynlluniau gofal iechyd arian yn ôl
  • Polisïau a chynlluniau lles

 

ConwyVoiceGuide

Arian a ffordd o fyw


Rydym eisiau eich helpu i gael y gorau o’ch arian a’ch ffordd o fyw.
  • Strwythur cyflogau cystadleuol gyda thaliadau chwyddo am weithio ar benwythnosau / oriau anghymdeithasol
  • Cynllun gwyrdd i brydlesu car*
  • Caiff pob gweithiwr ei gynnwys yn awtomatig mewn Cynllun Pensiwn priodol i helpu i gynllunio ar gyfer eich dyfodol
  • Gostgyngiadau ar gyfer teithio ar fysiau Arriva
  • Cyngor ac adnoddau lles ariannol i'ch helpu i wneud o mwyaf o'ch arian
  • Mae Gwobrau Conwy yn siop un stop ar gyfer pob un o fuddion staff, gostyngiadau manwerthu a hamdden Conwy gan gynnwys siopau'r stryd fawr, talebau rhodd gostyngol ac arbedion sinema, a Cherdyn Vectis Digidol ac ap i'ch helpu i arbed arian gan ddefnyddio gostyngiadau ar-lein a gostyngiadau mewn siopau.

* mae meini prawf cymhwyso'n berthnasol i rai o'r cynlluniau

 

Meeting

Gwobrau a Chydnabyddiaeth


Rydym am i'n holl weithwyr ragori yn eu rolau a datblygu eu gyrfa gyda ni.
  • Gwobrau Teyrngarwch Conwy am wasanaeth hir mewn Llywodraeth Lleol.
  • Awgrymiadau Staff er mwyn i leisiau gael eu clywed.

 

end content