Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Pwy ydym ni?

Pwy ydym ni?


Summary (optional)
start content
CP

 

Ein Gweledigaeth... Sir Flaengar sy'n Creu Cyfleoedd

 


Rydym yn gweithio mewn awyrgylch sy’n newid ac sy’n gofyn llawer. Ein gweledigaeth yw bod yn flaengar wrth reoli newid a’i ddefnyddio i greu cyfleoedd; i warchod yr hyn sydd gennym ac i adeiladu ar hyn er mwyn delio â newid.  Mae’r weledigaeth yn ymdrech a rennir.

Rydym eisiau cryfhau ein perthynas gyda dinasyddion fel y gallwn gydweithio i wella’r sir. Ym mhopeth a wnawn, o addysgu plant, gofalu am bobl ddiamddiffyn, ailgylchu gwastraff, rheoleiddio busnesau a darparu cyfleusterau hamdden a pherfformiadau yn y theatr i enwi ond rhai, rydym eisiau bod yn flaengar ac yn greadigol fel y gallwn wneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael i gymunedau o fewn sir Conwy.

Mae Ein Gwerthoedd…

Yn cynrychioli credoau ein sefydliad a’r ymddygiad a ddisgwylir gan ein gweithwyr ac rydym yn disgwyl i bawb sy’n cael eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ddangos y gwerthoedd hyn yn eu gwaith: 

care   Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith



fair   Rydym yn deg â phawb



innovative   Rydym yn arloesol



team   Rydym yn gweithio fel tîm


 

Cynllun Corfforaethol 2022-2027

Mae Cynllun Corfforaethol 2022-27 yn nodi ein gwerthoedd a’r meysydd blaenoriaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau canolbwyntio arnynt dros y pum mlynedd nesaf. Datblygwyd y blaenoriaethau drwy drafod gyda chymunedau drwy ‘Sgwrs y Sir’.


Conwy fel Cyflogwr

Yng Nghonwy, rydym yn ymfalchïo mewn gwella ein gwasanaethau’n barhaus ac rydym yn cydnabod mai ein gweithwyr yw ein hased pwysicaf.  Rydym am i chi fwynhau gweithio i Gonwy, ac ein nod yw eich cefnogi a buddsoddi ynddoch chi a’ch gyrfa, fel eich bod elwa o’ch diwrnod gwaith, a gwneud cyfraniad gwerthfawr i lwyddiant Conwy.  Rydym yn ymgeisio i fod yn gyflogwr dewisol gan ddarparu ystod eang o fuddion i’n cyflogwyr sy’n ein helpu i sicrhau ysgogiad ac ymgysylltiad ein gweithlu.  Rydym yn cydnabod ac yn gweithio mewn partneriaeth â thri undeb llafur.

Ein nod yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dda ar bopeth a wna, a bod yr holl ystod o wasanaethau rydym yn eu darparu o ansawdd uchel.  Rydym eisiau bod yn sefydliad sy’n elwa o amrywiaeth ein cymuned hefyd.  I wireddu’r nod, rydym yn ymwybodol nid yw hyn am gydymffurfio â’r gyfraith yn unig, ond mae’n cynnwys adnabod a gwerthfawrogi bod pawb yn wahanol, a thrin pawb yn deg.

Rydym eisiau cynnal diwylliant parchus lle mae gwerth pawb yn cael ei adnabod ni waeth eu hoedran, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a chredoau, a sicrhau cydraddoldeb ar draws pob maes. Rydym yn gyflogwr sensitif ac yn llawn cydymdeimlad sydd eisiau creu cymdeithas deg lle gall pawb gyflawni ei llawn botensial beth bynnag fo’u hunaniaeth.

dconf-c-logoRydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac wedi gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer wrth hyfforddi aelodau o staff i sicrhau ein bod yn weithle Sy’n Deall Dementia.

end content