Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Croeso gan y Prif Weithredwr

Croeso gan y Prif Weithredwr


Summary (optional)
start content

Rhun ap Gareth
Rhun ap Gareth

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i’ch croesawu chi’n bersonol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.   Rwy’n falch eich bod wedi dewis bod yn rhan o’n sefydliad – rwy’n siŵr y byddwch chi’n setlo mewn dim o dro ac y byddwn ninnau’n rhoi’r holl gefnogaeth angenrheidiol ichi.

Rydym yn awdurdod lleol sydd wedi ennill sawl gwobr ac yn gyflogwr rhagorol gan gadw at ei weledigaeth o fod yn ‘Sir Flaengar, sy’n Creu Cyfleoedd’.

Bydd eich rôl yn ein sefydliad, a’ch ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau rhagorol, yn ein helpu ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein trigolion a’n hymwelwyr yng Nghonwy.

Mae nifer o heriau wrth weithio i Gyngor, ond ond mae hefyd yn rhoi boddhad aruthrol inni. Gyda’n gilydd gallwn gael effaith cadarnhaol ar fywydau pobl.  Rydym bob amser yn ceisio gwella’r hyn a wnawn, moderneiddio’r ffordd a weithiwn a chwilio am gyfleoedd newydd.  Rwy’n falch o’r hyn rydym yn ei gyflawni, a gobeithiaf y byddwch yn rhannu’r un balchder a theimlo’n falch o fod yn rhan o’n Tîm Conwy.

Dymunaf pob llwyddiant i chi yn eich rôl newydd a gobeithiaf y bydd hwn yn ddechrau ar yrfa hir a boddhaus.

Siart Sefydliadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cwrdd â’r Uwch Dîm Rheoli - Democratiaeth Lleol Conwy

end content