Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Beth i'w Ddisgwyl ar Eich Diwrnod Cyntaf

Beth i'w Ddisgwyl ar Eich Diwrnod Cyntaf


Summary (optional)
start content

welcomeYng Nghyngor Conwy, rydym yn credu mewn rhoi popeth y mae ar ein gweithwyr ei angen iddynt i berfformio ar eu gorau.

Byddwn yn eich helpu i osod eich man gwaith, ac yn darparu unrhyw offer sydd ei angen ar gyfer eich swydd ac unrhyw fynediad TG sydd arnoch ei angen. Ar gyfer rolau sydd angen offer TG, rydym yn darparu gliniadur, pensetiau ac ati.

Bydd eich Rheolwr recriwtio yn cyfarfod â chi ar eich diwrnod cyntaf, bydd wedi anfon manylion o ran ble a phryd atoch chi.  Bydd yn eich helpu i setlo ac i ddod i adnabod eich tîm newydd ac rhennir y wybodaeth ganlynol â chi ar eich diwrnod cyntaf:

  • Trefn rhoi gwybod am absenoldeb / salwch
  • Trefniadau cyflog a slipiau cyflog electronig
  • Trefniadau gwyliau
  • Hyfforddiant ar systemau cofnodi amser - VisionTime, taflenni amser
  • Oriau gwaith / amser cinio / goramser
  • Trefniadau diogelwch
  • Cyflwyniad i’ch cydweithwyr
  • Cerdyn mynediad i Goed Pella (os yw’n berthnasol)
  • Bathodyn adnabod (os yw’n berthnasol)
  • Cyfleusterau gwneud paned
  • Lleoliad y toiledau
  • Taith o amgylch yr adeilad
  • Cyfleusterau parcio

Mae gennym Raglen Gynefino Gweithwyr newydd gadarn, a byddwch yn cael eich arwain drwyddi yn ystod eich cyfnod prawf.

end content