Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Cyflogau a Phensiynau

Cyflogau a Phensiynau


Summary (optional)
start content

Budget (002)Mae’r Gwasanaeth Cyflogau a Phensiynau yn gyfrifol am brosesu a chyfrifo eich cyflogau bob mis, gan sicrhau bod pob un o’n rhwymedigaethau statudol a deddfwriaethol yn cael eu dilyn ar gyfer taliadau a didyniadau.

Yn dibynnu ar eich contract, byddwch chi’n cael eich talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar neu cyn y 15fed o’r mis ar gyfer Gweithwyr CBSC neu ar neu cyn y 21ain o’r mis ar gyfer Gweithwyr Addysg, sef y gwir swm wedi didynnu’r pethau arferol fel treth incwm, yswiriant gwladol ac ati.

Caiff gweithwyr ar gontract eu talu 1/12 o’u cyflog blynyddol (pro rata) bob mis ar gyfer mis talu cyfan, oni bai eu bod yn dechrau neu’n gorffen ar ganol mis. Pe baech chi’n dechrau neu’n gorffen ar ganol mis, byddai eich cyflog blynyddol yn cael ei rannu â 12 ac eto â nifer y diwrnodau yn y mis (28, 29, 30 neu 31). Yna byddai’r rhif hwn yn cael ei luosi â nifer y diwrnodau a weithiwyd ar ôl eich dyddiad dechrau at ddiwedd y mis, neu nifer y diwrnodau a weithiwyd cyn eich dyddiad gadael.

  • Caiff gwelliannau cyflog, goramser, costau teithio a hawliadau treuliau, yn ogystal â Gweithwyr Achlysurol, eu talu fel ôl-daliadau.
  • Fel Awdurdod, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i gydymffurfio â Pholisi Cofrestru Awtomatig y Rheoleiddiwr Pensiynau, a chaiff pensiwn ei ddidynnu’n awtomatig os ydych chi’n bodloni’r meini prawf a nodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.
  • Fe gaiff gweithwyr nad ydynt yn addysgu eu cofrestru â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a gaiff ei weinyddu gan Gronfa Bensiwn Gwynedd, caiff gweithwyr sydd yn y Proffesiwn Addysgu eu cofrestru â’r Cynllun Pensiwn Athrawon.
  • Pe bai gennych unrhyw broblemau o ran cael eich cofrestru’n awtomatig, byddai angen i chi gysylltu naill ai â Chronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar 01286 679982 neu dros e-bost pens@gwynedd.gov.uk.
  • Gellir cysylltu â Teachers' Pensions ar 0345 606166 neu trwy gofrestru ar eu porthol gan ddefnyddio’r ddolen ganlynol Mewngofnodi i My Pension Online a gwirio eich datganiad | Teachers' Pensions (teacherspensions.co.uk).

Dylid trin unrhyw bryderon o ran didyniadau pensiynau o fewn mis o ddyddiad y didyniad cyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynlluniau Pensiwn, ewch i www.cronfabensiwngwynedd.cymru ar gyfer Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Mewngofnodi i My Pension Online a gwirio eich datganiad | Teachers' Pensions (teacherspensions.co.uk) ar gyfer Pensiynau Athrawon.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Gyflogau, cysylltwch â cyflogau@conwy.gov.uk

Er mwyn lleihau ein hôl-troed carbon, ni chaiff slipiau papur a P60 eu cynhyrchu bellach a chânt eu hanfon dros e-bost at weithwyr (gyda chyfrinair). Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich Dogfennau Dechreuwr Newydd.

end content