Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Prif leoliadau swyddfeydd

Prif leoliadau swyddfeydd


Summary (optional)
start content

Ein prif swyddfeydd yw Bodlondeb yng Nghonwy a Choed Pella ym Mae Colwyn. Mae llawer o weithwyr yn gweithio yn y swyddfeydd hyn yn darparu gwasanaethau rheng flaen a chefnogaeth i’r cyhoedd. Dyma fap a gwybodaeth ddefnyddiol i chi am yr adeiladau.

Mae gennym ni hefyd nifer o adeiladau eraill yn y sir sy’n darparu nifer o wasanaethau rheng flaen i’r cyhoedd e.e. Venue Cymru, Theatr Colwyn, Canolfan Fusnes Conwy, ysgolion, canolfannau teuluoedd, depos gwastraff ac ailgylchu, adeiladau llyfrgell a chanolfannau hamdden.

Bodlondeb


Bangor Road, Conwy, LL32 8DU
  • Maes Parcio - maes parcio am ddim ar gael yn ystod yr wythnos.
  • Lolfa Staff - Wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf.
  • Cerdyn Mynediad - I gael mynediad i'r adeilad, bydd angen cerdyn mynediad amoch, a byddwch yn cael hwn ar eich diwrnod cyntaf.
  • Bathodyn Adnabod - Mae'n rhaid i chi wisgo eich bathodyn adnabod pan rydych yn adeiladau'r swyddfeydd, fel y gellir eich adnabod yn rhwydd fel gweithiwr i Gonwy.

Coed Pella


Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AZ
  • Maes Parcio - Mae maes parcio aml-lawr wedi’i leoli yng nghefn yr adeilad.  Mae cyfyngiad ar nifer y lleoedd parcio sydd ar gael, ond bydd arwyddion electronig yn dweud wrthoch faint sydd ar gael.  Bydd angen i chi anfon e-bost gyda rhif cofrestru eich cerbyd i facilitymanagementcoedpella@conwy.gov.uk
  • Mae parcio ar y stryd - ar gael hefyd, ond nodwch fod gan rhai ardaloedd gyfyngiad ar amser.  Parchwch ddefnyddwyr ceir eraill, preswylwyr lleol a busnesau, a pheidiwch â pharcio dros ddreifiau/mynedfeydd ac ati.
  • Lolfa Staff - Wedi’i lleoli ar yr ail lawr.
  • Cerdyn Mynediad - I gael mynediad i’r adeilad, bydd angen cerdyn mynediad arnoch, a byddwch yn cael hwn ar eich diwrnod cyntaf.
  • Bathodyn Adnabod - Mae’n rhaid i chi wisgo eich bathodyn adnabod pan rydych yn adeilad y swyddfeydd, fel y gellir eich adnabod yn rhwydd fel gweithiwr i Gonwy.  Mae Coed Pella ar agor i’r cyhoedd, felly mae’n bwysig cwestiynau hunaniaeth unrhyw un nad ydynt yn gwisgo bathodyn adnabod.  
end content