Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Gweithio'n Ddiogel

Gweithio'n Ddiogel


Summary (optional)
start content

Hands--Family-01 (002)Mae eich diogelwch, iechyd a’ch lles yn bwysig iawn i ni. Mae Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn anelu at sicrhau nad yw unrhyw un sy’n dod i’r gwaith yn cael niwed corfforol neu feddyliol gan y gwaith y mae gofyn iddynt ei gyflawni.

Fel y byddwch yn ei ddisgwyl, mae gennym lawer o wybodaeth ar gael i chi, y gellir cael mynediad ati drwy’r fewnrwyd. Bydd eich Rheolwr Llinell yn darparu cyfnod cynefino cynhwysfawr i chi, ac yn tynnu eich sylw at Weithdrefnau Gweithio’n Ddiogel sy’n berthnasol i chi, ac mae gofyn i chi fynd i Gyflwyniad Cynefino Iechyd a Diogelwch Corfforaethol hefyd.

Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau ledled y Sir, gyda phoblogaeth o tua 117,000 o ddinasyddion, ac rydym yn cydnabod y cymhlethdodau y gall hyn ei achosi.

Gofalwch am eich hun ac eraill, ac os ydych chi’n pryderu am unrhyw faterion, hysbyswch eich rheolwr neu Gydlynydd Iechyd a Diogelwch y Gwasanaeth.

end content