Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Addysgu eich plentyn gartref

Addysgu eich plentyn gartref


Summary (optional)
Mae'r rhan fwyaf o rieni neu warcheidwaid yn penderfynu anfon eu plant i'r Ysgol i gael addysg, ond mae gennych yr hawl i ddewis addysgu eich plentyn gartref yn lle.
start content

Yn dilyn cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2023, mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn cael ei hadolygu a gall newid.  Os ydych chi’n addysgu’ch plentyn gartref ar hyn o bryd neu’n ystyried gwneud hynny, efallai yr hoffech chi gyfeirio at Addysg yn y cartref: llawlyfr i addysgwyr yn y cartref Llywodraeth Cymru.

Beth yw Addysg Ddewisol yn y Cartref?

Addysg Ddewisol yn y Cartref yw dewis addysgu eich plentyn gartref yn hytrach na mewn Ysgol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael addysg effeithlon ac effeithiol o bump oed (oedran ysgol gorfodol).

Beth sydd angen i mi ei hysbysu?

  • Plentyn erioed wedi ei gofrestru mewn ysgol
    Os nad yw eich plentyn erioed wedi'i gofrestru mewn ysgol a'ch bod yn penderfynu addysgu'ch plentyn gartref, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi hysbysu'r awdurdod lleol. Fodd bynnag, byddai gwneud hynny o gymorth, a gellir gwneud drwy lenwi'r ffurflen hon a’i dychwelyd yn ôl y gofyn
  • Plentyn wedi ei gofrestru mewn ysgol
    Os ydych chi wedi penderfynu addysgu eich plentyn gartref ond ei fod eisoes wedi'i gofrestru mewn ysgol, rhaid i chi roi gwybod i'r Pennaeth yn ysgrifenedig a gofyn iddo dynnu eich plentyn oddi ar y gofrestr. Yna, bydd yr ysgol yn rhoi gwybod i ni ac yn tynnu eich plentyn oddi ar y gofrestr. Os byddwch chi’n newid eich meddwl ar y pwynt hwn, bydd angen i chi wneud cais eto ar gyfer lle yn yr ysgol, gan gymryd bod lleoedd yn dal ar gael.

Beth yw rôl yr Awdurdod Lleol?

Nid oes dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i fonitro ansawdd yr addysg rydych chi'n ei darparu i'ch plant ond mae'n rhaid iddynt fod yn fodlon eich bod chi'n rhoi addysg addas i'ch plant.

Pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael?

Byddwn yn cysylltu â chi ar y dechrau, pan fyddwch yn penderfynu addysgu gartref, a gallwn gynnig cyngor ymarferol a defnyddiol. Wedi hynny, byddwn yn cysylltu â chi yn flynyddol i drefnu galwad ffôn neu ymweliad cartref (os yw'n briodol) i drafod addysg eich plant a chynnig cefnogaeth ac arweiniad.

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall

 

end content