Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyfforddiant ALNET - Rhan 1-3


Summary (optional)
Bydd y cwrs yn cyflwyno Pecyn Gwaith ADY Conwy a Sir y Fflint ac yn amlinellu sut bydd yn cefnogi lleoliadau i weithredu’r broses drawsnewid.
start content

Dyddiadau

I’w gynnal ar 3 wythnos yn olynol - mae angen bod yn bresennol ar gyfer y 3 dyddiad fel a ganlyn.

Sylwch hefyd y bydd cost ychwanegol o £20 os na fyddwch yn mynychu neu’n canslo’n hwyr.

Dyddiadau'r cwrs
DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrFfi'r cwrs
10, 17 a 24 Hydref 2023 6:30pm - 8:30pm Hyfforddiant ar-lein trwy Zoom Swyddog Arweinol Anghenion Ychwanegol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Am ddim

 

Manylion y cwrs

Ar gyfer arweinwyr lleoliadau/gwarchodwyr plant ac aelodau staff gyda chyfrifoldeb am anghenion ychwanegol sy’n newydd i’r rôl neu’r rhai nad oedd yn gallu mynychu yn flaenorol.

Rhan 1 (wythnos un)

Codi ymwybyddiaeth o ALNET a phroses ADY yng Nghonwy.

Deall y Map Darpariaeth a Darpariaeth Gyffredinol o Safon:

  • Deall gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
  • Bod yn ymwybodol o’r Map Darpariaeth Rhanbarthol
  • Deall beth yw ystyr darpariaeth gyffredinol o ansawdd uchel
  • Deall pwysigrwydd Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn 

Rhan 2 (wythnos dau)

Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (YCU) yn y Blynyddoedd Cynnar a’r rhan mae’n ei chwarae yn y broses Cynllun Datblygu Unigol (CDU).

Bydd y sesiwn yn darparu cyflwyniad i ddulliau YCU a sut i greu Proffil Un Dudalen.

Bydd y sesiwn yn helpu i adolygu Proffil Un Dudalen a darparu safbwynt cyffredinol ar sut i gyfrannu at adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr Unigolyn:

  • Cyflwyniad i Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a’i le o fewn y Ddeddf ADY a Thribiwnlys Addysg yng Nghymru
  • Cynnwys sut i greu proffil un dudalen ar gyfer plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol fel rhan o gasglu gwybodaeth
  • Bydd yr Hyfforddiant yn rhoi trosolwg o sut y gall yr wybodaeth hon gyfrannu at Adolygiad sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn fel rhan o fonitro darpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn yn y Blynyddoedd Cynnar
  • Bydd cyfle i ymarfer ysgrifennu proffil un dudalen

Rhan 3 (wythnos tri)

Deall Dogfen Pecyn Gwaith ADY Conwy a Sir y Fflint:

  • Deall gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg a’r broses drawsnewid
  • Bod yn ymwybodol o ddogfen Pecyn Gwaith yr Awdurdod Lleol
  • Deall beth yw ystyr darpariaeth gyffredinol o ansawdd uchel
  • Deall pwysigrwydd Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
end content