Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

CIEH Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd


Summary (optional)
start content

Nodau ac amcanion y cwrs:

Mae’r Wobr Lefel 2 Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo wedi ei llunio gan arbenigwyr y diwydiant i ddarparu’r hyfforddiant angenrheidiol i unigolion a busnesau i gydymffurfio â deddfwriaeth trin bwyd cyfredol.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rhai hynny sydd angen gwybodaeth sylfaenol o egwyddorion hylendid bwyd. Mae’n disodli’r Cwrs Tystysgrif Sylfaenol yn uniongyrchol ac yn darparu’r lefel o wybodaeth angenrheidiol i unigolion gydymffurfio â’r anghenion hyfforddiant sylfaenol cyfredol.

Os bydd gennych unrhyw broblemau neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch hyfforddiantPDBCGP@conwy.gov.uk.

end content