Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Gwasanaeth casglu sbwriel bob 4 wythnos - Cwestiynau cyffredin

Gwasanaeth casglu sbwriel bob 4 wythnos - Cwestiynau cyffredin


Summary (optional)
start content

Gallwch weld y wybodaeth ailgylchu mewn Iaith Arwyddion Prydain yma.

A fydd gennyf ddigon o le yn y bin olwynion du?
Bydd, os byddwch yn defnyddio’ch gwasanaethau gwastraff bwyd ac ailgylchu wythnosol, eich casgliadau gwastraff o’r ardd, tecstilau ac eitemau trydanol bob pythefnos, a chasgliad clytiau/nwyddau anymataliaeth os bydd ei angen arnoch. Mae’n hawdd ailgylchu mwy, a gall bob aelwyd ofyn am gynwysyddion a bagiau leinio ychwanegol.

Caiff teuluoedd o 6 neu fwy o bobl ofyn am ail fin olwynion du, cyn belled â’ch bod yn ailgylchu popeth posibl. Os oes llai na 6 o bobl yn eich aelwyd, ond eich bod yn cael trafferth gyda diffyg lle yn eich bin, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Caiff pob aelwyd ofyn am gynwysyddion ailgylchu ychwanegol.

Byddwn yn gofyn am eich amgylchiadau ac yn sicrhau eich bod yn gymwys pan fyddwch yn gofyn am fwy o finiau.
Beth am arogleuon a denu plâu?
Gall gwastraff bwyd, clytiau a nwyddau anymataliaeth achosi arogleuon yn eich bin olwynion. Gallwch osgoi hyn trwy ddefnyddio eich gwasanaeth ailgylchu wythnosol ar gyfer gwastraff bwyd ac os oes gennych glytiau neu nwyddau anymataliaeth, gofynnwch i ni am gasgliad wythnosol am ddim. Gallwch gloi eich cynhwysydd gwastraff bwyd i gadw plâu allan, ac rydym yn darparu bagiau leinio am ddim. Bagiwch eitemau fel gwastraff anifeiliaid cyn ei roi yn eich bin olwynion er mwyn helpu i leihau arogleuon drwg.
Beth sy’n digwydd os byddaf yn colli’r casgliad gwastraff – a fydd rhaid i mi aros 4 wythnos arall?
Os byddwch yn mynd i ffwrdd ac na allwch drefnu i gymydog neu ffrind roi eich bin allan, ceisiwch gysylltu â ni o flaen llaw os gwelwch yn dda, a gallwn drefnu i gasglu eich bin. Mewn achosion arbennig (fel argyfwng yn y teulu) lle nad oeddech yn gallu cysylltu â ni o flaen llaw, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmer ar 01492 575337 ac fe wnawn ein gorau i helpu.
Mae gennyf ddau o blant mewn clytiau ac ni allaf ymdopi â chasgliad gwastraff bob 4 wythnos
Rydym yn darparu casgliad clytiau neu nwyddau anymataliaeth wythnosol AM DDIM os yw’r nifer y byddwch yn eu defnyddio yn golygu y byddwch yn rhedeg allan o le yn eich bin gwastraff. Rydym yn darparu bagiau leinio a chadi sy’n cloi. Os hoffech drefnu i gael y gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni trwy anfon ebost affch@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337.
Mae’r biniau yn rhy drwm i mi eu symud
Os ydych yn ailgylchu popeth posibl, ni ddylai eich bin olwynion fod yn rhy drwm, gan mai dim ond pethau ysgafn na ellir eu hailgylchu a fydd ynddo, fel plastig ystwyth. Os na allwch symud eich bin ac nad oes neb i’ch helpu, cysylltwch â ni i drefnu casgliad â chymorth trwy anfon ebost at affch@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 575337.
Rydw i’n poeni y bydd llawer mwy o dipio anghyfreithlon yn fy ardal
Canfu’r treial casglu bob 4 wythnos na fu cynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Trwy ddefnyddio’r casgliadau gwastraff bwyd ac ailgylchu wythnosol ynghyd â’r casgliadau gwastraff o’r ardd, tecstilau ac eitemau trydanol bob pythefnos, bydd digon o le yn y bin i’ch gwastraff. Fel arfer, eitemau na fyddai’n ffitio mewn bin olwynion yw pethau sy’n cael eu tipio’n anghyfreithlon (eitemau swmpus fel matresi, teiars, nwyddau gwynion, cadeiriau a soffas). Gellir mynd â gwastraff swmpus i’r canolfannau ailgylchu – am wybodaeth am eu lleoliadau ac oriau agor, ewch i’r wefan: www.conwy.gov.uk/ailgylchu .

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus yn gynharach eleni, mae ‘Dangosydd Glendid’ Conwy yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru a hwn yw’r ffigur uchaf a gofnodwyd ar gyfer Conwy ers 2008/2009
Nid wyf yn meddwl ei bod yn deg fy mod yn talu fy nhreth cyngor a dim ond yn cael casgliad bob 4 wythnos
Mewn gwirionedd, rydych yn cael 13 casgliad y mis – 17 os ydych chi’n derbyn y gwasanaeth casglu clytiau neu nwyddau ymataliaeth.
Amlder y casgliad Math o gasgliad Nifer y casgliadau bob 4 wythnos
Wythnosol
  • Gwastraff bwyd
  • Ailgylchu – papur a cherdyn, plastig, caniau a chartonau, gwydr a cherdyn
  • 4 x casgliad gwastraff bwyd (1 bob wythnos)
  • 4 x casgliad ailgylchu (1 bob wythnos)
Pob pythefnos
  • Tecstilau
  • Nwyddau trydanol
  • 2 x tecstilau (1 bob pythefnos)
  • 2 x trydanol (1 bob pythefnos)
Pob 4 wythnos 
  • Gwastraff
  • 1 bob 4 wythnos
CYFANSWM   13 casgliad bob 4 wythnos
Mae gen i gath, ci a chwningen, beth alla i ei wneud â’r gwastraff? Mae 4 wythnos yn rhy hir i aros!
Pan fo’n bosibl, defnyddiwch y biniau baw cŵn mewn mannau cyhoeddus ar gyfer gwastraff cŵn. Os ydych chi’n defnyddio eich bin gwastraff, lapiwch y baw ci yn dda mewn bag plastig i helpu i leihau arogleuon.

Mae angen i wastraff gwasarn cathod fynd i’r bin gwastraff ond gallwch ei lapio’n ddwbl mewn bag i leihau unrhyw arogleuon posibl.

Gallwch roi gwastraff anifeiliaid sy’n bwyta llysiau, fel cwningod, yn eich tomen gompost gartref.
Pa dystiolaeth sydd gennych bod lleihau casgliadau gwastraff yn gwella cyfraddau ailgylchu?
Cafodd casgliadau bob 4 wythnos eu treialu am flwyddyn gron gyda 10,000 o aelwydydd. Dangosodd bod preswylwyr yn ailgylchu 14% yn fwy ac mae’r gwastraff yn y bin olwynion wedi lleihau gan 31%. Mae’r eitemau hynny nawr yn cael eu hailgylchu yn rhywbeth newydd a chaiff y gwastraff bwyd ei ddefnyddio i wneud trydan.
Beth os nad ydw i’n siŵr os gellir ailgylchu eitem benodol?


end content