Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ailgylchu eich eitemau trydanol bach

Ailgylchu eich eitemau trydanol bach


Summary (optional)
Defnyddiwch y bag pinc i ailgylchu pob eitem drydanol, yn cynnwys offer sydd wedi torri. Os oes ganddo blwg neu fatri, ac yn ffitio yn y bag, fe wnawn ni ei gymryd.
start content

Os ydych yn byw mewn ardal wledig, gallwch ffonio Crest ar 01492 596783 i drefnu eich casgliad.

Mae eich bag pinc ar gyfer eitemau trydanol bach yn cael ei gasglu wrth ymyl ochr y ffordd bob pythefnos. Mae’r eitemau yn cael eu trwsio ac yn cael eu hailddefnyddio gan Crest Cooperative.

Oes plîs:

  • Chwaraewyr MP3, CD a DVD
  • Teganau trydanol
  • Ffonau symudol
  • Gliniaduron
  • Consolau gemau
  • Tostwyr, tegelli, heyrn smwddio
  • Radios
  • Raseli
  • Brwsys Dannedd
  • Trydanol/Sychwyr Gwallt
  • Offer Pŵer
  • e-sigaréts - os oes modd, tynnwch y batri a’i roi yn eich bag ailgylchu batris

Dim Diolch:

  • Mae batris yn cael eu casglu’n wythnosol o’ch bag gwyn ailgylchu batris
  • Ni fydd offer trydanol mawr fel setiau teledu, oergelloedd neu beiriannau golchi yn cael eu casglu fel rhan o'r gwasanaeth hwn

Ewch ag eitemau mawr i Ganolfannau Ailgylchu Mochdre ac Abergele, neu ffoniwch Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 01492 575337 i archebu casgliad gwastraff swmpus

Cysylltwch â Crest i gael bagiau pinc eraill ar 01492 596783 neu info@crestcooperative.co.uk. Gallwch hefyd gael y bagiau hyn o’ch llyfrgell leol.


Dim Casgliad dros y Nadolig

Nid fydd offer trydanol yn cael eu casglu yn ystod wythnos y Nadolig na’r Flwyddyn Newydd. Os oes arnoch angen gwaredu eitemau trydanol yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen i chi fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref. Bydd casgliadau’n ail-ddechrau yn ystod yr ail wythnos ym mis Ionawr. Gweler y calendr casgliadau neu gwiriwch eich dyddiad casglu am ragor o wybodaeth.

Gweler hefyd:

end content