Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwastraff Gardd


Summary (optional)
Ymunwch â’n gwasanaeth casglu gwastraff gardd a darganfod ble arall fedrwch chi ailgylchu eich gwastraff gardd.
start content

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn cael ei redeg gan Bryson Recycling. Gallwch gysylltu Bryson Recycling ar-lein neu ffoniwch 01492 555898.

Gwasanaeth i gasglu gwastraff

Cost y gwasanaeth yw £46 am 12 mis, gan gynnwys un bin 240l ar olwynion wedi’i ddanfon at eich drws. Cewch brynu biniau ychwanegol (uchafswm o 3) am £26 yr un.

  • Casgliad rheolaidd bob pythefnos
  • Bin ar olwynion sy’n hawdd i’w ddefnyddio – dim mwy o fagiau trwm
  • Dim angen ymweld â’r ganolfan ailgylchu
  • Un taliad o £46 y flwyddyn

Sut ydw i’n cofrestru i danysgrifio?

Gallwch gofrestru ar-lein ar neu ffonio 01492 555898.

Pwy sy’n darparu’r gwasanaeth hwn?

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei reoli gan Bryson Recycling ar ran y Cyngor.

A oes modd i mi gofrestru ar unrhyw adeg?

Mae tanysgrifiadau’n dechrau fis Ebrill - gallwch gofrestru unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond byddwch chi’n talu am y 12 mis llawn.

Faint o fagiau llawn y gellir eu rhoi yn y bin 240I newydd?

Mae’r bagiau yn 120I, felly gellir rhoi cyfwerth â 2 hen fag gwastraff gardd yn y bin newydd. Dim ond un neu ddau fag y mae nifer o aelwydydd yn eu rhoi allan i’w casglu, ac felly ni fyddai arnynt angen mwy nag un bin.

A oes modd i mi gael mwy nag un bin gwastraff gwyrdd?

Oes - cewch ychwanegu hyd at 3 bin ychwanegol at eich tanysgrifiad am £26 yr un, yn cynnwys casgliadau.

Nid oes gennyf le i gadw bin gwastraff gardd – ga’ i ddefnyddio’r hen sachau gwyrdd yn lle?

Bydd gan y rhan fwyaf o gartrefi le i fin gwastraff gardd, sef y ffordd hawsaf o ailgylchu. Os nad yw bin yn addas ar gyfer eich cartref chi, cysylltwch â Bryson ar 01492 555898.

A oes modd i mi dalu am gasgliad un tro yn unig?

Nac oes - dim ond tanysgrifiad ydym ni’n ei gynnig.

Beth allaf roi yn y bin gwastraff gardd?

Mae'r casgliad ymyl palmant gwastraff gardd ar gyfer:

  • Glaswellt
  • Dail
  • Planhigion bach a brigau
  • Chwyn nad ydynt yn ymledol

Nid ydym yn casglu:

  • Pridd
  • Rwbel
  • Canghennau mawr
  • Bagiau compost, potiau a sbwriel arall
  • Gwastraff anifeiliaid
  • Chwyn ymledol megis Llysiau'r Dial neu Efwr Enfawr na ellir eu compostio yn ôl y gyfraith. Os ydych angen cyngor ar sut i ddelio â phlanhigion ymledol cliciwch yma am arweiniad gan Lywodraeth Cymru

Beth os oes gennyf lwyth o wastraff gardd?

Gellir mynd â llwythi mawr o wastraff gardd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Nid oes gennyf ddigon o wastraff gardd i dalu am danysgrifiad.  Beth arall allaf ei wneud gyda fy ngwastraff gardd? A oes modd i mi gael gostyngiad?

Nid ydym yn gallu cynnig gostyngiadau. Ond mae ffyrdd eraill o gael gwared ar eich gwastraff gardd:

  • Defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 9am a 4pm). Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn.
  • Defnyddio’r Ganolfan Ailgylchu Symudol unwaith y mis ar fore Sadwrn, sydd ar agor rhwng 9am ac 11am:
    • Cerrigydrudion - y dydd Sadwrn cyntaf o bob mis
    • Llanrwst - yr ail ddydd Sadwrn o bob mis
    • Llangernyw - y trydydd dydd Sadwrn o bob mis
  • Defnyddio compostiwr cartref
  • Torri eich gwastraff gardd yn fân i’w ddefnyddio fel tomwellt
  • Rhannu tanysgrifiad bin gwastraff gardd gyda chymydog

Beth sy’n digwydd os ydw i’n symud i fyw yn ystod fy nhanysgrifiad?

Os ydych chi’n symud i gyfeiriad arall yn Sir Conwy, gallwch fynd â’ch tanysgrifiad gyda chi os gwnewch chi roi gwybod i ni. Os ydych chi’n symud o Sir Conwy, bydd eich tanysgrifiad yn aros gyda’r eiddo.

Beth os ydw i angen cymorth gyda chasgliad?

Os nad oes gennych rywun i’ch helpu chi, gallwch ofyn am gymorth gyda chasgliad os ydych yn ei chael hi’n anodd symud eich bin i ymyl y palmant ar ddiwrnod casglu.

Pam ydych chi’n codi tâl am gasglu gwastraff gardd? Nid yw treth y cyngor yn talu am hynny?

Nid yw'n orfodol i’r Cyngor ddarparu casgliadau gwastraff gardd am ddim i gartrefi. Mae’r gyfraith yn dweud y gallwn godi ffi resymol am gasglu gwastraff gardd, yn yr un modd ag y codwn ffioedd am gasgliadau gwastraff swmpus. Ond mae'n ddyletswydd arnom i gael gwared ar wastraff gardd yn rhad ac am ddim, felly bydd hyn yn parhau am ddim yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

A yw Cynghorau eraill yn codi ffi am gasglu gwastraff gardd?

Ydyn, gan gynnwys Gwynedd, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Beth ddylwn i ei wneud gyda’r hen sachau gwyrdd?

Gallwch ddefnyddio’ch hen sachau gwyrdd i symud gwastraff o’ch gardd neu ar gyfer storio.

Oni fydd y ffioedd hyn yn annog tipio anghyfreithlon?

Mae'r rhan fwyaf o drigolion yn ufuddhau i’r gyfraith a fydden nhw byth yn tipio eu gwastraff yn anghyfreithlon. Cyn i ni gyflwyno casgliadau gwastraff gardd yn 2007, chawson ni ddim problemau penodol o ran tipio gwastraff yn anghyfreithlon Does dim tystiolaeth gan gynghorau eraill bod tipio anghyfreithlon yn cynyddu gyda gwasanaeth casglu gwastraff gardd y telir amdano.

end content