Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Ailddefnyddio – sut i osgoi tirlenwi

Ailddefnyddio – sut i osgoi tirlenwi


Summary (optional)
Mae ailddefnyddio eitemau yn well o lawer na'u hanfon nhw i safleoedd tirlenwi, neu hyd yn oed eu hailgylchu. Dyma sydd angen i chi ei wneud.
start content

Y tair rheol er mwyn rheoli gwastraff yw Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu.

Mae ailddefnyddio eitemau yn well o lawer i’r amgylchedd na'u hanfon nhw i safleoedd tirlenwi neu hyd yn oed eu hailgylchu. Mae ailddefnyddio yn arbed ynni ac adnoddau newydd.

Mae llawer o eitemau'r cartref y gellir eu defnyddio o hyd, hyd yn oed os ydym ni wedi blino arnynt neu wedi prynu rhai newydd.

Dodrefn ac offer tŷ mawr

  • Gallwch dalu am gasgliad swmpus ar gyfer dodrefn ac offer tŷ mawr megis oergelloedd, poptai a pheiriannau golchi nad oes arnoch eu hangen bellach.

Gallwch fynd ag eitemau i Gydweithredfa Crest i gael eu trwsio a'u rhoi i elusen neu eu gwerthu ymlaen. Hyd yn oed os na ellir ailddefnyddio eitemau fel ag y maent, mae’n bosibl defnyddio rhannau ohonynt neu eu hailgylchu.

Darganfod mwy am gasgliadau swmpus

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn cynnig gwasanaeth casgliadau am ddim ar gyfer dodrefn, eitemau trydanol ac eitemau arbenigol y gellir eu hailwerthu yn eu siopau. Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth clirio tai.

  • Gallwch fynd ag eitemau i’r Canolfannau Ailgylchu Domestig am ddim. Mae Siop Ailddefnyddio Mochdre yn adfer eitemau y gellir eu hailddefnyddio ac yn eu gwerthu ymlaen i gefnogi Hosbis Dewi Sant.

Darganfod mwy am y Siop Ailddefnyddio

Dillad

  • Bob pythefnos, gallwch roi dillad, bagiau ac esgidiau i’w casglu o ymyl y palmant. Caiff eitemau eu golchi a'u hailddefnyddio gan Gydweithredfa Crest.

Darganfod mwy am gasgliadau dillad y bag piws.

  • Mae nifer o elusennau hefyd yn croesawu rhoddion dillad, llyfrau, bagiau, teganau ac esgidiau o ansawdd da.

Eitemau trydanol bach

  • Bob pythefnos, gallwch roi eitemau trydanol bach i'w casglu o ymyl y palmant. Caiff eitemau eu trwsio a'u hailddefnyddio gan Gydweithredfa Crest.

Darganfod mwy am gasgliadau eitemau trydanol y bag pinc.

Trwsio eitemau sydd wedi torri

Mae Caffis Trwsio yn helpu pobl i wneud y mwyaf o’r eitemau sydd ganddynt yn barod. Gall unrhyw un ddod ag eitemau’r cartref, technoleg, beiciau a dillad a bydd yr arbenigwyr gwirfoddol yn gwneud eu gorau i’w trwsio.

Dewch o hyd i’ch caffi trwsio agosaf a’r dyddiadau nesaf.

Mae Caffis Trwsio yng Nghonwy, Bae Colwyn a Llandudno.

Gwneud elw ar bethau nad ydych eu hangen

Yn hytrach na’u taflu nhw, gwnewch ychydig o elw drwy werthu'r eitemau yn lleol ar Preloved.co.uk neu ar Farchnad Facebook.

Eu pasio ymlaen

Rhowch eich eitemau i gartref newydd drwy Conwy Freegle. Efallai y bydd rhywun wirioneddol eisiau eich hen bethau!

Clytiau

Os hoffech chi roi cynnig ar opsiwn amgen i glytiau tafladwy er mwyn arbed arian ac i helpu’r amgylchedd, rydym yn cynnig arian yn ôl ar glytiau go iawn.

Cofrestru ar gyfer cyflwyniad i Glytiau Go Iawn.

end content