Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Gorfodi Ailgylchu - Gwnewch fel y Jonesiaid

Gorfodi Ailgylchu - Gwnewch fel y Jonesiaid


Summary (optional)
Rydym ni’n helpu pobl nad ydynt yn ailgylchu eu sbwriel i osgoi cosb benodedig
start content

Beth sy’n digwydd? 

Mae cynghorau yng Nghymru yn helpu pobl nad ydynt yn ailgylchu. Bydd cynghorau yn helpu’r bobl hynny ailgylchu eu sbwriel. Maen nhw hefyd yn helpu pobl sydd yn ailgylchu dim ond ychydig bach i ailgylchu mwy. Mae hyn yn golygu didoli gwastraff i’r eitemau y gellir eu hailgylchu, a’r rhai na ellir eu hailgylchu. Dim ond yr eitemau na ellir eu hailgylchu ddylai fod ar ôl i fynd i’ch bag neu fin gwastraff. 

Rydym yn cynnig yr holl gymorth, cyngor, gwybodaeth a chynwysyddion ailgylchu sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan. Os bydd pobl yn dal ati i beidio ag ailgylchu, byddwn yn anfon hysbysiad cosb benodedig yn cael ei anfon atyn nhw. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r person dalu cosb benodedig o £100 neu wynebu ymddangosiad llys.

Pam mae hyn yn digwydd?

Mae angen i bawb gymryd rhan. Pan nad yw aelwydydd yn ailgylchu mae cost i bawb yn y gymuned. Yn 2022, roedd cost peidio ag ailgylchu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn fwy na £500,000. Gellid bod wedi gwario’r arian hwn ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen hanfodol, fel ysgolion, llyfrgelloedd, tai, parciau a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae bagiau gwastraff sy’n gorlifo yn achosi problemau gydag arogleuon a fermin. Mae’n niwsans ac yn ddrud i’w glirio. Mae ailgylchu yn hawdd gyda gwasanaethau rheolaidd yn casglu ailgylchu o’ch cartref. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ailgylchu – nid yw’n ormod i’w ofyn.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Os nad ydych yn ailgylchu, mae angen i chi ddechrau heddiw. Nid oes rhaid i chi aros i dderbyn llythyr gennym. Gallwch gysylltu â ni ar-lein neu ffonio ein Tîm Cyngor ar  01492575337 rŵan os bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Sut i archebu’r bagiau, biniau neu focsys sydd eu hangen arnoch am ddim, os nad oes gennych chi rai eisoes (Gofyn am Gynhwysydd neu Fin)
  • Diwrnod yr wythnos caiff eich ailgylchu (a gwastraff arall na ellir ei ailgylchu) ei gasglu (Gwirio fy niwrnod casglu)
  • Pa gymorth neu wasanaethau ychwanegol eraill y gallwn eu rhoi i chi.

Hefyd, os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod angen ein cymorth mewn fformat gwahanol, fel Braille neu iaith arall, rhowch wybod i ni drwy gysylltu â ni ar 01492 575337.

Rwyf wedi derbyn llythyr – beth ddylwn i’w wneud?

Peidiwch â’i anwybyddu! Er mwyn osgoi’r drafferth o gael hysbysiad cosb posibl, sy’n golygu dirwy o £100 neu, o bosibl, ymddangosiad llys, mae angen i chi ailgylchu eich gwastraff. Cysylltwch â ni ar-lein neu ffoniwch ein Tîm Cyngor ar  01492575337, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod yn ailgylchu eich gwastraff yn iawn, ac fe wnawn eich helpu i osgoi hysbysiad cosb.

Rwyf i neu rywun rwy’n eu hadnabod yn cael anhawster ailgylchu. Gyda phwy ddylwn i gysylltu am fwy o gymorth? 

Nid ydym am i aelodau o’r gymuned sy’n agored i niwed boeni. Felly, os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn ei chael yn anodd ailgylchu neu ei fod yn peri dryswch, cysylltwch â ni ar-lein neu ffoniwch ein Tîm Cyngor ar  01492575337, a gallwn eich helpu a thawelu eich meddwl. Rydym yn fodlon ymweld â chi yn eich cartref a dangos i chi sut i ailgylchu eich gwastraff yn gywir.

Rwy’n ailgylchu rhywfaint o fy ngwastraff, ond dydw i ddim yn siŵr am ambell eitem. Rwy’n poeni y byddaf yn cael cosb benodedig os byddaf yn gwneud camgymeriad bach.

Ni fyddwn yn cosbi preswylwyr sy’n gwneud camgymeriad achlysurol ac rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar yr aelwydydd hynny sy’n ailgylchu ychydig iawn neu ddim o gwbl.

Os ydych chi’n ansicr a ellir ailgylchu rhywbeth, neu os yw pecyn eitem yn dweud rhywbeth gwahanol i’r wybodaeth a roesom i chi, mae bob amser yn well dilyn y canllawiau rydym wedi’u rhoi i chi, sydd wedi’u creu yn benodol ar gyfer eich gwasanaeth ailgylchu. Os ydych chi wedi colli’ch calendr ac angen archebu un newydd, cysylltwch â ni ar-lein neu ffoniwch ein Tîm Cyngor ar  01492575337. Fe allwch chi hefyd lawrlwytho eich calendr fel dogfen PDF a’i argraffu – drwy sgrolio i lawr ar y dudalen Fy nyddiad casglu.

end content