Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Cynllun Clytiau Go Iawn

Cynllun Clytiau Go Iawn


Summary (optional)
Gostyngiad am ddefnyddio clytiau go iawn a lleihau’r gwastraff a gynhyrchir gan eich aelwyd.
start content

Os ydych yn breswylydd yng Nghonwy ac yn disgwyl babi, neu os oes gennych blentyn o dan 12 mis oed, gallwch gymryd rhan yn y cynllun clytiau go iawn.

Mae babi angen 5000 o glytiau ar gyfartaledd, sy’n costio bron i £800 mewn clytiau tafladwy. Gall clytiau go iawn arbed arian i chi yn ogystal â bod yn well i’r amgylchedd.

Os ydych yn dewis clytiau go iawn, byddwn yn ad-dalu hyd at £30 i chi.

Sut i hawlio

  1. Prynwch eich clytiau gan un o’r cyflenwyr ar ein rhestr

  2. Anfonwch eich enw, eich cyfeiriad a thystiolaeth o'r pryniant at:
affch@conwy.gov.uk

Cynllun Clytiau Go Iawn
Yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

 

Llyfrgell Clytiau Go Iawn

Wyddoch chi fod yna wasanaeth llyfrgell clytiau go iawn yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn sir Conwy?  Gallwch ddefnyddio pecyn clytiau go iawn am fis ar y tro drwy roi blaendal a gwneud cyfraniad ariannol bychan.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan Lyfrgell Clytiau Go Iawn Eryri sy’n rhan o Rwydwaith Clytiau’r DU - UK Nappy Network

Rydym yn cynnig casgliad wythnosol ar gyfer clytiau tafladwy

Gwasanaeth Casglu Clytiau Tafladwy

end content