Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Ailgylchu a Gwastraff Podback - Cwestiynau Cyffredin

Podback - Cwestiynau Cyffredin


Summary (optional)
start content

Pynciau

 

Casgliadau Drws i Ddrws

Sut ydw i’n ailgylchu fy mhodiau gartref?

Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth drwy wefan Podback ac archebwch eich bagiau ailgylchu AM DDIM. 

Bydd Podback yn anfon dau rolyn o fagiau i chi ailgylchu eich podiau coffi alwminiwm NEU blastig, ynghyd â thaflen gyfarwyddiadau.  Os ydych yn defnyddio podiau NESCAFÉ Dolce Gusto byddwch hefyd yn derbyn cadi storio. Byddwch yn derbyn mwy o fagiau yn awtomatig ar ôl 6 mis.

Mae dau wahanol fag, un gwyn ar gyfer alwminiwm ac un gwyrdd ar gyfer plastig.  RHAID cadw’r podiau alwminiwm a phlastig ar wahân fel y gallent gael eu hanfon i’r cyfleuster ailbrosesu cywir. 

Llenwch eich bag yn ôl y cyfarwyddiadau. Rhowch eich bag(iau) allan ar eich diwrnod casglu tecstilau ac eitemau trydanol bob pythefnos NEU os ydych yn byw mewn ardal wledig archebwch gasgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783. 

Pam bod angen i mi roi gwybod i chi pa bodiau rwy’n eu defnyddio?

Mae podiau alwminiwm a phlastig yn cael eu hanfon i gyfleusterau ailgylchu gwahanol, felly mae’n bwysig eu bod yn cael eu casglu ar wahân. Os ydych yn defnyddio dau fath o bodiau, byddwch angen cofrestru ar gyfer y ddau pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth. 

Pa mor hir fydd hi’n cymryd i’r bagiau ailgylchu gyrraedd?

Bydd eich bagiau’n cael eu hanfon i chi o fewn 7 - 10 diwrnod gwaith. Unwaith i chi dderbyn eich bagiau, gallwch ddechrau eu defnyddio ar unwaith. Dilynwch y cyfarwyddiadau a rhowch y bag allan ar eich diwrnod ailgylchu tecstilau ac eitemau trydanol ymyl palmant bob pythefnos. Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, trefnwch gasgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Pa frandiau o bodiau sydd wedi’u cynnwys fel rhan o’r Podback?

Ar hyn o bryd mae 11 o frandiau yn cefnogi’r cynllun:

Nespresso, NESCAFÉ Dolce Gusto, Starbucks gan Nespresso, Starbucks gan NESCAFÉ Dolce Gusto, TASSIMO, L’OR, Cru Kafe, Artisan Coffee Co, Allpress Espresso, Colonna Coffee, Café Palmieri gan Jomad Coffee, Pret a Manger.

Gyda’i gilydd mae’r brandiau hyn yn cynrychioli dros dri chwarter o farchnad y DU.

Uchelgais Podback yw ehangu’r rhaglen i gynnwys holl frandiau pod coffi sy’n defnyddio podiau plastig ac alwminiwm yn y DU. Os nad yw eich brand yn aelod ar hyn o bryd, beth am gysylltu â nhw i awgrymu eu bod yn cymryd rhan?

Pryd ydych chi’n disgwyl i frandiau eraill ymuno â Podback?

Cenhadaeth Podback yw creu ffyrdd syml a hawdd i bobl ailgylchu podiau coffi, beth bynnag y brand.

Ar hyn o bryd mae 11 o frandiau ynghlwm. Mae Podback yn awyddus i ehangu’r rhaglen fel bod un system ar gyfer y rhai sy’n hoffi coffi podiau, i’w ddefnyddio ar draws y DU.  Mae Podback mewn trafodaethau o ran aelodaeth gyda mwy o frandiau a manwerthwyr, fel bod pob rhan o’r sector podiau coffi yn rhan o’r rhaglen.

Pa fathau o bodiau a dderbynnir ar ymyl y palmant?

Mae holl bodiau alwminiwm a phlastig gan y brandiau sy’n cymryd rhan yn gallu cael eu hailgylchu gyda Podback:

Nespresso, NESCAFÉ Dolce Gusto, Starbucks gan Nespresso, Starbucks gan NESCAFÉ Dolce Gusto, TASSIMO, L’OR, Cru Kafe, Artisan Coffee Co, Allpress Espresso, Colonna Coffee, Café Palmieri gan Jomad Coffee, Pret a Manger.

Derbynnir yr holl frandiau hyn a gellir eu hailgylchu drwy’r rhaglen Podback. Mae hyn yn cynnwys podiau coffi, siocled poeth a the.  Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Podback

Alla i ailgylchu podiau siocled poeth a the?

Gallwch ailgylchu unrhyw fath o bodiau gan y brandiau hyn, gan gynnwys podiau siocled poeth a the: 

Nespresso, NESCAFÉ Dolce Gusto, Starbucks gan Nespresso, Starbucks gan NESCAFÉ Dolce Gusto, TASSIMO, L’OR, Cru Kafe, Artisan Coffee Co, Allpress Espresso, Colonna Coffee, Café Palmieri gan Jomad Coffee, Pret a Manger.

Alla i roi podiau alwminiwm a phlastig yn yr un bag?

Na, rhaid cadw’r gwahanol fathau o bodiau ar wahân fel y gallent gael eu hanfon i’r cyfleuster ailbrosesu cywir. Mae dau wahanol fag, un gwyn ar gyfer alwminiwm ac un gwyrdd ar gyfer plastig. 

Os ydych yn defnyddio podiau alwminiwm a phlastig dylech wneud cais am y ddau fag pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar wefan Podback

Alla i gynnwys y pecyn ddaeth y podiau ynddynt yn y bagiau casglu?

Na, peidiwch â rhoi’r pecyn y daeth y podiau ynddynt yn y bagiau casglu. Gwiriwch sut i ailgylchu’r eitemau hyn yn lleol.

Why do I need a caddy for the NESCAFÉ Dolce Gusto pods?Pam fy mod i angen cadi ar gyfer podiau NESCAFÉ Dolce Gusto?

Mae’r podiau hyn yn tueddu i ddal mwy o hylif.  Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback, gofynnir i chi pa frand o bodiau rydych yn eu defnyddio fel y gall y bagiau ailgylchu cywir gael eu hanfon i chi.

Bydd Defnyddwyr NESCAFÉ Dolce Gusto hefyd yn derbyn cadi draenio. Mae’r cadis yn galluogi i’r hylif dros ben ddraenio yn haws gan helpu defnyddwyr i storio’r podiau rhwng y casgliadau. Darperir cyfarwyddiadau llawn gyda’r cadi. 

Trosglwyddwch y podiau i’r bag ailgylchu Podback ymyl y palmant pan fyddent yn barod ar gyfer eu casglu.

A fyddwch chi’n amnewid fy nghadi NESCAFÉ Dolce Gusto os y bydd yn torri?

Byddwn. Cysylltwch â Podback yn uniongyrchol a byddent yn trefnu eich bod yn derbyn cadi arall.

Ble a phryd dylwn roi fy magiau allan ar gyfer eu casglu?

Unwaith y bydd eich bagiau yn llawn, rhowch nhw allan i’w casglu ar eich diwrnod casglu tecstilau ac eitemau trydanol ymyl palmant bob pythefnos. Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, byddwch angen trefnu casgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Oes angen i mi dynnu’n gwaddodion coffi wedi’u defnyddio cyn eu rhoi nhw yn y bag casglu?

Na, gallwch roi’r pod i gyd yn syth i’r bag ailgylchu.  Mae’r gwaddodion coffi yn cael eu tynnu o’r podiau fel rhan o’r broses ailgylchu. Yna caiff y coffi ei drin drwy dreulio anaerobig sy’n creu ynni adnewyddadwy (bio-nwy) a deunydd i wella pridd.

Draeniwch unrhyw hylif sy’n weddill o’ch podiau cyn eu rhoi nhw yn eich bag ailgylchu.

Awgrymiadau gwych ar gyfer gwaddodion coffi sydd ar ôl yn eich peiriant:

  • Rhowch eich gwaddodion coffi mewn potyn bach a’i roi yn eich oergell er mwyn helpu i dynnu’r aroglau drwg.
  • Bwydwch blanhigion llwglyd drwy ychwanegu i’ch tomen gompost neu ei roi ar ben eich pridd, sy’n helpu i gadw’r gwlithod, malwod a morgrug i ffwrdd.

Faint o fagiau Podback y gallaf roi i’w casglu?

Gallwn gasglu cymaint o fagiau a hoffech chi. Unwaith y bydd eich bagiau yn llawn, rhowch nhw allan i’w casglu ar eich diwrnod casglu tecstilau ac eitemau trydanol ymyl palmant bob pythefnos. Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, byddwch angen trefnu casgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Os ydych yn rhedeg allan o fagiau, gallwch archebu mwy o wefan Podback.

Sut ydw i’n archebu bagiau ailgylchu ymyl palmant Podback am ddim?

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth Podback i gael bagiau. Mae’r gwasanaeth am ddim.  Bydd Podback yn anfon dau rolyn o fagiau i chi ailgylchu eich podiau coffi alwminiwm NEU blastig, ynghyd â thaflen gyfarwyddiadau.  Os ydych yn defnyddio podiau NESCAFÉ Dolce Gusto byddwch hefyd yn derbyn cadi storio. 

Rwyf wedi gorffen fy nghyflenwad o fagiau casglu ymyl y palmant, sut alla i gael mwy?

Ewch i wefan Podback a defnyddiwch y ffurflen gysylltu er mwyn archebu rholyn ychwanegol o fagiau casglu ymyl y palmant.

Sawl pod a fydd yn ffitio i mewn i’r bagiau ailgylchu?

Bydd y nifer o bodiau yn dibynnu ar y brand rydych yn ei ddefnyddio. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y bag a’i lenwi hyd at y llinell ddotiog, a sicrhewch eich bod wedi draenio unrhyw hylif.

Alla i ddefnyddio unrhyw fath o fag i ddychwelyd fy mhodiau ar ymyl y palmant?

Na. Er mwyn cymryd rhan yn y cynllun casgliadau ailgylchu ymyl y palmant rhaid i chi ddefnyddio’r bagiau ailgylchu a ddarperir am ddim gan Podback. Mae’r bagiau Podback yn helpu criw Crest i adnabod y bagiau yn hawdd a’u rhoi yn y blwch cywir yn y fan. Mae hefyd yn helpu i’w trefnu ar gyfer ailbrosesu yn haws.  Mae’n hawdd cofrestru ac archebu bagiau ymyl y palmant o wefan Podback.

 

Fflatiau

Rydw i’n byw mewn bloc gyda biniau cymunedol, alla’ i gymryd rhan yn y cynllun?

Gallwch. Archebwch gasgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Neu fe allwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth Gollwng, sy’n gadael i chi ollwng eich bagiau llawn yn eich man casglu Collect+ agosaf. I archebu eich bag ailgylchu am ddim, ewch i’r adran sut i ailgylchu ar wefan Podback.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n byw mewn fflat?

Gallwch ailgylchu eich podiau coffi - os ydych fel arfer yn cael casgliadau tecstilau ac eitemau trydanol bob pythefnos, rhowch eich bag Podback allan yr un diwrnod. Os nad oes gennych y casgliad hwn ar eich calendr, rhaid i chi archebu casgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Rwy’n byw mewn fflat ac yn defnyddio bin a rennir. Alla i gymryd rhan?

Gallwch ailgylchu eich podiau coffi - cofrestrwch ar archebwch eich bagiau ymyl y palmant o wefan Podback yna archebwch gasgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

 

Casgliadau a Gollwyd

Nid yw fy magiau wedi cael eu casglu. Sut alla i drefnu ar gyfer casgliad podiau a gollwyd?

Os nad yw eich podiau wedi cael eu casglu, gwiriwch eich diwrnod casglu yn gyntaf. Mae eich bagiau Podback yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â’r bagiau pinc a piws tecstilau ac eitemau trydanol.

Os ydym wedi methu eich bagiau, gallwch adrodd am gasgliad a gollwyd ar ein gwefan neu drwy ffonio ein Tîm Cynghori ar 01492 575337.

Sicrhewch fod eich bagiau ond yn cynnwys podiau coffi ac nad ydynt yn llawn hylif. Efallai bod y criw wedi gadael y bagiau gan eu bod yn cynnwys y deunyddiau anghywir. Os yw’r bagiau yn cynnwys y deunyddiau anghywir neu lawer o hylif, tynnwch y rhain cyn eu rhoi allan ar gyfer eu casglu.

 

Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref

Alla i fynd a fy mhodiau fy hun i Ganolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref?

Na, peidiwch â mynd a’ch podiau i’r Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref. Gallwch ond ailgylchu eich podiau coffi drwy ein gwasanaeth casglu ymyl y palmant. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim ar wefan Podback.

 

Podback - Ffyrdd i Ailgylchu

Pam fod gwahanol ffyrdd i ddychwelyd eich podiau coffi ar gyfer eu hailgylchu?

Mae Podback wedi creu partneriaeth gyda’r enwau mwyaf yn y systemau podiau coffi, Nespresso, NESCAFÉ Dolce Gusto a TASSIMO er mwyn datblygu un system ailgylchu hawdd a syml ar draws y DU. Mae Podback yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chwmni Cydweithredol Crest i gynnwys podiau coffi fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu’r cartref.

Mae’r system Ollwng ailgylchu yn galluogi Podback i gynnig y gwasanaeth ar draws y DU. Mae Podback yn gweithio i gynyddu nifer y pwyntiau Gollwng lleol i roi mwy o opsiynau i bobl i ailgylchu eu podiau.

Casgliadau ymyl y palmant:  Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth casgliadau ymyl y palmant, rhaid i drigolion gofrestru ac archebu bagiau ailgylchu am ddim o wefan Podback.  Peidiwch â defnyddio unrhyw fath o fagiau eraill ar gyfer y casgliad hwn. 

Rhaid i bodiau coffi alwminiwm a phlastig gael eu cadw ar-wahân gan eu bod yn cael eu hailbrosesu mewn cyfleusterau gwahanol. Mae’r bagiau wedi cael eu dylunio fel y gallwch eu clymu yn hawdd er mwyn diogelu’r podiau. Mae’r bagiau yn ei gwneud yn haws i’r tîm casglu adnabod y mathau o bodiau a’u rhoi yn y blwch cywir yn y depo yn barod ar gyfer eu hailbrosesu.

Unwaith y bydd eich bagiau yn llawn, rhowch nhw allan i’w casglu ar eich diwrnod casglu tecstilau ac eitemau trydanol ymyl palmant bob pythefnos. Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig, byddwch angen trefnu casgliad drwy ffonio Crest ar 01492 596783.

Gollwng drwy Collect+:  I ddefnyddio’r gwasanaeth Gollwng, rhaid i drigolion archebu’r bagiau Collect+ gan frand sy’n aelod o Podback neu fanwerthwr sy’n eu cefnogi. Mae rhagor o wybodaeth o ran sut i gael bag ar gael ar wefan Podback.

Mae’r bagiau hyn wedi cael eu dylunio fel y gallent gael eu cau yn hawdd er mwyn atal gollyngiadau wrth gael eu casglu drwy Collect+.  Mae bagiau Collect+ am ddim ond efallai bydd ffi danfon. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar wefan Podback.  Byddwch yn ymwybodol - ni allwch ddefnyddio’r bagiau hyn ar gyfer casgliadau ymyl y palmant.

 

Beth sy'n digwydd i'r podiau coffi ar ôl cael eu casglu?

Beth sy’n digwydd i fy mhodiau?

Ar ôl eu casglu, mae’r podiau coffi yn mynd i leoliadau ailbrosesu arbenigol yn y DU.  Mae’r gwaddodion coffi yn cael eu tynnu, caiff y plastig a’r alwminiwm eu trawsnewid yn gynhyrchion newydd, gan gynnwys caniau diod, cydrannau ceir neu ddodrefn gardd plastig a chynnyrch adeiladu. Mae’r gwaddodion coffi yn cael eu prosesu gan gyfleusterau treulio anaerobig sy’n cynhyrchu ynni adnewyddadwy (bio-nwy) a deunydd gwella pridd. 

Ble bydd y podiau yn cael eu prosesu a’u hailgylchu?

Mae’r broses ailgylchu yn digwydd yn y DU felly nid oes angen i’ch podiau deithio yn bell cyn cael eu trawsnewid i rywbeth newydd.  Mae podiau alwminiwm yn cael eu hail-brosesu yn Tandom Metallurgical Group Ltd yn Congleton ger Stoke-on-Trent.  Mae podiau plastig yn cael eu hail-brosesu gan Bright Green Plastics yng Ngorllewin Swydd Efrog.

 

Effaith amgylcheddol

A yw’r bagiau yn cael eu hailgylchu fel rhan o’r broses ailgylchu?

Mae Podback yn defnyddio mathau gwahanol o fagiau yn dibynnu ar y gwasanaeth casglu - ymyl y palmant neu ollwng.  Rhaid i’r bagiau hyn allu storio podiau yn y cartref heb ollwng hylif, ac yna rhaid iddynt allu goresgyn y siwrnai o’ch aelwyd i’r lleoliad ailbrosesu.

Mae’r bagiau a ddarperir gan Podback ar gyfer casgliadau ymyl y palmant (podiau alwminiwm a phlastig) a Collect+) (podiau alwminiwm) yn cael eu hailgylchu gan gyfleuster yn Nwyrain Swydd Efrog sy’n arbenigo mewn ailgylchu plastigion hyblyg, megis pecynnau bwyd. Mae’r cyfleuster yn cynhyrchu peli bach plastig a ddefnyddir mewn ystod eang o ddiwydiannau gweithgynhyrchu.

Nid yw’r bagiau gwyrdd a ddefnyddir ar gyfer podiau plastig a anfonir drwy Collect+ yn gallu cael eu hailgylchu ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd mae’r bagiau hyn yn cael eu hanfon ar gyfer adfer ynni.  Fodd bynnag, yn dilyn treialon llwyddiannus yn 2022, bydd Podback yn cyflwyno bagi Collect+ newydd ar gyfer podiau plastig a ellir eu hailgylchu’n llawn gan yr ailbrosesydd yn Nwyrain Swydd Efrog.  Disgwyliwn y bydd holl fagiau Podback yn cael eu hailgylchu yn y modd hwn yn gynnar yn 2023.

A fyddai’n well pe na fyddai pobl yn defnyddio’r podiau o gwbl?

Mae coffi yn rhywbeth personol iawn ac mae Podback yn credu y dylai pob defnyddiwr gael y dewis i’w yfed yn eu hoff ffordd; coffi parod, wedi rhostio, coffi mâl neu drwy ddefnyddio podiau.

Mae Podback yn canolbwyntio ar wneud y dewis hwn mor gynaliadwy â phosibl ar gyfer defnyddwyr trwy gynnig ffordd hawdd iddynt ailgylchu eu podiau coffi.Mae Nespresso wedi cynnal astudiaethau dadansoddi cylch oes gwahanol fathau o goffi, sy’n dangos bod un o’r effeithiau amgylcheddol mwyaf yn dod o’r ffordd y caiff ei baratoi. Mae’r astudiaethau hyn yn dangos fod podiau coffi yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â dulliau eraill, gan eu bod ond yn defnyddio’r union swm o ffa coffi, dŵr ac ynni sydd ei angen i fragu un gwpan.

Fodd bynnag, mae Podback yn gwybod fod angen gwneud mwy i sicrhau fod holl becynnu’r podiau yn cael eu cipio a’u hailgylchu, a dyna’r rheswm fod Podback wedi cael ei lansio.

Pam fod Podback yn defnyddio cymaint o wahanol fathau o fagiau plastig i gasglu’r podiau?

Casgliadau ymyl y palmant:  Mae dau wahanol fag, un gwyn ar gyfer alwminiwm ac un gwyrdd ar gyfer plastig.  RHAID cadw’r podiau alwminiwm a phlastig ar wahân fel y gallent gael eu hanfon i’r cyfleuster ailbrosesu cywir. Mae’r bagiau yn helpu’r tîm casglu adnabod y mathau o bodiau coffi a’u rhoi yn y blwch cywir yn y depo yn barod ar gyfer eu hailbrosesu. 

Casgliadau Gollwng gan ddefnyddio Collect+:  Mae dau wahanol fag Collect+, un gwyn ar gyfer alwminiwm ac un gwyrdd ar gyfer plastig.  RHAID cadw’r podiau alwminiwm a phlastig ar wahân fel y gallent gael eu hanfon i’r cyfleuster ailbrosesu cywir. Mae’r rhain wedi cael eu dylunio gyda sêl arbennig i atal unrhyw hylif rhag gollwng pan maent yn cael eu hanfon drwy’r system Collect+. 

Beth yw effaith carbon y cynllun Podback?

Mae ôl troed carbon y gwasanaeth yn bwysig iawn i ni. Rydym yn gweithio gyda Podback a phartneriaid i sicrhau fod y gwasanaeth mod effeithlon â phosibl.

 

Canslo'r Gwasanaeth

Beth sydd angen i mi ei wneud os nad wyf angen y gwasanaeth Podback?

Yn syml cysylltwch â Podback a byddent yn sicrhau bod eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar gofrestr Podback a rhoi gwybod i chi beth i’w wneud gydag unrhyw fagiau dros ben neu’r cadi draenio.

end content