Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau

Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau


Summary (optional)
start content

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’n dymuno penodi unigolyn ymroddgar i wasanaethu fel Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.  Gwahoddir ceisiadau gan rai â diddordeb sy’n uchel eu parch yn y gymuned ac nad ydynt yn wleidyddol; sy’n graff ac yn gywir ac sydd â chymeriad da ac union a’r gallu i gynnal cyfrinachedd.

Penodir Aelodau Annibynnol am gyfnod o rhwng pedair a chwe blynedd ac o bosib gellir eu penodi am dymor olynol o hyd at bedair blynedd. I wneud cais, bydd angen i chi allu dod i o leiaf 4 cyfarfod bob blwyddyn, a gynhelir dros y we ar hyn o bryd ond a gynhelir fel arfer ym Modlondeb, Conwy yn ystod y diwrnod gwaith arferol.  Bydd cydnabyddiaeth ariannol i Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau.  Mae Conwy wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’n cymuned.  

Yn ôl y gyfraith ni all unrhyw un o’r unigolion canlynol fod yn Aelod Annibynnol:

  • Cynghorydd neu Swyddog o’r Cyngor (neu briod neu bartner sifil Cynghorydd neu Swyddog) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yr Awdurdod Tân ac Achub, Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Gyngor Cymuned / Tref.
  • Cyn Gynghorwyr neu Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • Cyn Gynghorwyr neu Swyddogion o unrhyw Gyngor Sir neu Fwrdeistref Sirol, Awdurdod Tân ac Achub neu Awdurdod Parc Cenedlaethol arall tan o leiaf un flynedd ers peidio â bod yn Gynghorydd / Swyddog o’r Awdurdod hwnnw.

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch ag www.conwy.gov.uk ac i gael ffurflen gais, cysylltwch â Gwasanaethau Pwyllgorau ar 01492 574675 neu anfonwch e-bost at pwyllgorau@conwy.gov.uk.  

Dyddiad cau: 20/08/2021;

Cynhelir cyfweliadau ym Medi 2021 gan benodi ar 21/10/2021

end content