Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Archwilio Cyfrifon 2022/23 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Harbwr Conwy

Archwilio Cyfrifon 2022/23 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Harbwr Conwy


Summary (optional)
start content

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac Harbwr Conwy:  Archwilio cyfrifon y flwyddyn ariannol 2022 / 2023


RHODDIR RHYBUDD yn ôl Adran 29 i 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau 21, 22 ac 24 o’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014:

1.  O ddydd Llun 21 Awst hyd ddydd Llun 18 Medi 2023 yn gynwysedig (ag eithrio dyddiau Sadwrn a Sul), gall unrhyw un wneud cais i'r Cyfarwyddwr Strategol - Cyllid ac Adnoddau, Bodlondeb, Conwy am gael archwilio a gwneud copïau o gyfrifon yr uchod am y flwyddyn sy’n diweddu 31 Mawrth 2023 a phob llyfr, gweithredoedd, biliau contractau, talebau a derbynebau perthynol. I gysylltu â’r Cyfarwyddwr Strategol - Cyllid ac Adnoddau, allwch chi e-bostio accountancy.technical@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 574000 os gwelwch yn dda fel y gallwn wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio.

2.  Ar neu ar ôl ddydd Mawrth 19 Medi 2023 am 10.00am nes y caiff yr archwiliad ei gwblhau, gellir cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru neu ei gynrychiolydd trwy Gareth Lucey yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu e-bost, Gareth.Lucey@archwilio.cymru, ar gais unrhyw etholydd llywodraeth leol yn rhanbarth y cyfrifon, i roi cyfle i’r etholydd neu ei gynrychiolydd ddod gerbron yr archwilydd a gwrthwynebu unrhyw rai o’r cyfrifon.  Ni ellir gwneud unrhyw wrthwynebiad gan, neu ar ran, unrhyw etholydd os na fydd yr Archwilydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig ymlaen llaw o’r gwrthwynebiad y bwriedir ei wneud a’r rhesymau am hynny.  Pan fydd etholydd yn anfon rhybudd i’r Archwilydd bydd rhaid iddo hefyd anfon copi o’r rhybudd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i’r cyfeiriad isod.

3.  Gellir cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru Mr Adrian Crompton trwy Gareth Lucey yn 1, Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu trwy e-bost, Gareth.Lucey@archwilio.cymru.

Amanda Hughes
Cyfarwyddwr Strategol - Cyllid ac Adnoddau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bwlch Post 1, Conwy, LL30 9GN

Dyddiedig: 4 Awst 2023

end content