Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Hysbysiad o Cais ar gyfer Cantaniâd Cynllunio - Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel

Hysbysiad o Cais ar gyfer Cantaniâd Cynllunio - Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel


Summary (optional)
start content

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 10 CAIS AR GYFER CANIATÂD CYNLLUNIO


Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel:  Datblygiad arfaethedig yn -Wal Gynnal Towyn, ar flaen Parc Carafanau Golden Sands (NGR: SH 97190 79927), i Horton’s Nose yn Nwyrain Bae Cinmel (NGR: SH 99462 80988).


Rwy’n rhoi rhybudd drwy hyn
fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gwneud cais i Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer caniatâd cynllunio ar gyfer Cynllun Gwella Amddiffynfeydd Arfordirol Bae Cinmel.

Gall aelodau’r cyhoedd archwilio copi drafft o’r cais yn Llyfrgell Bae Cinmel, Y Ganolfan Gymunedol, Kendal Road, Bae Cinmel, y Rhyl, LL18 5BT (Oriau agor: dydd Mawrth 10am-1pm, dydd Mercher 2pm-6pm, dydd Iau 10am-1pm, dydd Gwener 2pm-5pm) ac ar-lein ar https://www.conwy.gov.uk/amddiffyniadarfordirBC

Unwaith y caiff ei gyflwyno a’i ddilysu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, bydd y cais ar gael i’w weld ar-lein ar https://www.conwy.gov.uk/poryddcynllunio

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ar y cais, ysgrifennu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol:

erbyn 13 Ionawr 2023

Llofnod,
Geraint Edwards
Pennaeth yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Dyddiad:  14 Rhagfyr 2022


Datganiad o hawliau’r perchennog:
  Nid yw caniatáu’r caniatâd cynllunio yn effeithio ar hawliau’r perchnogion i gadw neu waredu eu heiddo, oni bai bod darpariaeth i’r gwrthwyneb mewn cytundeb neu brydles

Datganiad o hawliau amaethyddol:  Gall caniatáu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad nad ydyw’n amaethyddol effeithio ar ddiogelwch deiliadaeth tenantiaid amaethyddol

end content