Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Newyddion Hysbysiadau Cyhoeddus Hysbysiadau cyffredinol Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 Rhan 4 - Trwyddedu Morol

Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 Rhan 4 - Trwyddedu Morol


Summary (optional)
Cais am drwydded forol ar gyfer Gwaith Ymchwilio Tir i gynorthwyo'r gwaith o wella'r Amddiffynfeydd Morol
start content

HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod  Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr Awdurdod trwyddedu, am drwydded forol i gynnal gwaith ymchwilio tir i gynorthwyo cynllunio amddiffynfeydd morol gwell.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n https://publicregister.naturalresources.wales/  

Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais RML2018.

Yng ngoleuni’r sefyllfa iechyd cyhoeddus gyfredol gyda golwg ar Coronafirws (COVID-19) ni fydd copi caled o’r cais a dogfennau ategol ar gael mewn man cyhoeddus yn y cyfnod hwn’.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i:

Tîm Trwyddedu Morol
Gwasanaeth Trwyddedu
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP


neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn, gan ddyfynnu cyfeirnod: RML2018

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad y gellir anfon gohebiaeth iddo.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, yn trosglwyddo copi o unrhyw sylw neu wrthwynebiad a dderbynnir i’r ymgeisydd.

Dyddiedig 30 Gorffennaf 2020

 

end content