Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth

Trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth


Summary (optional)
start content

Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth?

Adeilad neu eiddo a gaiff ei rentu allan i fwy na 2 o bobl nad ydynt o’r un ‘aelwyd’ (e.e. teulu) yw Tŷ Amlfeddiannaeth. Mae gwahanol fathau o Dai Amlfeddiannaeth:

Yn ôl Deddf Tai 2004, Tŷ Amlfeddiannaeth yw:

  • tŷ neu fflat cyfan sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sydd yn ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
  • adeilad sydd wedi’i drawsnewid yn llwyr i fflatiau hunangynhwysol lle mae llai na dwy ran o dair a berchennog-feddianwr yn byw yno a lle nad oedd y trawsnewid yn cydymffurfio gyda Rheoliadau Adeiladu 1991
  • tŷ sydd wedi’i newid i nifer o fflatiau un ystafell neu lety arall nad yw’n hunangynhwysol ac sydd wedi’i feddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy ac yn rhannu cegin, ystafell ymolchi neu doiled
  • tŷ wedi’i drawsnewid sydd yn cynnwys un fflat neu fwy nad ydynt yn llwyr hunangynhwysol ac sydd wedi’u meddiannu gan dri thenant neu fwy sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy
  • Deddfwriaeth Tai Amlfeddiannaeth (dolen allanol).

Mae gofyn i rai o Dai Amlfeddiannaeth arbennig o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gael trwydded.  Heb Drwydded Tai Amlfeddiannaeth, mae’n anghyfreithlon, er enghraifft, i rentu eich eiddo allan i denantiaid neu gyflwyno rhybuddion dadfeddiannu.

Mae’n rhaid i Dai Amlfeddiannaeth sydd yn dod o dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol gael trwydded: 

  • os oes ganddo dri llawr neu fwy; AC
  • os oes pum tenant neu fwy yn byw ynddo, AC 
  • os ydynt yn llunio mwy nag un aelwyd; AC
  • os ydynt yn rhannu cyfleuster (ystafell ymolchi neu doiled neu gegin).

Mae meini prawf gwahanol dan ein Cynllun Trwyddedu Ychwanegol.  Bydd Trwyddedu Ychwanegol ond yn berthnasol i adeiladau mewn ardaloedd penodol yn sir Conwy.

Sef:

  • Bae Colwyn (Wardiau Glyn a Rhiw yn unig) 
  • Llandudno a Chraig y Don (Gogarth Mostyn, Tudno a Chraig y Don)
  • Pensarn (Marine Road a Rhodfa’r De yn unig)

Mae’n rhaid i Dai Amlfeddiannaeth yn yr ardaloedd uchod feddu ar drwydded os:   

  • oes tri thenant neu fwy yn byw yn yr adeilad NEU  
  • maent yn ffurfio mwy nag un aelwyd, gyda chyfleusterau a rannir (ystafell ymolchi a chegin) neu heb gyfleusterau a rennir (fflatiau hunangynhwysol fel arfer)
  • nad yw’r adeilad yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991
  • yw llai na dau draean o fflatiau hunangynhwysol yn eiddo i berchen-feddianwyr.

 

Sut i wneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth


Cyfrifoldeb y canlynol yw gwneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth:

  • Rhydd-ddeiliad   
  • Prif Brydleswr 
  • Landlord
  • Cwmni Hawl i Reoli 
  • Rheolwr yr adeilad

Cyn i chi wneud cais, darllenwch ein cwestiynau cyffredin er mwyn pennu p’un a yw eich eiddo’n dŷ amlfeddiannaeth neu ddim - FAQ's Licensing Billingual

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach, neu os nad ydych chi’n siŵr p’un a oes angen i chi wneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth, anfonwch e-bost at trwyddeduTA@conwy.gov.uk.

Faint mae'n ei gastio?

Mae trwydded Tai Amlfeddiannaeth fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd o'r dyddiad cyhoeddi. Mae cost trwydded yn dibynnu ar y math o Dai Amlfeddiannaeth sy'n cael eu trwyddedu (Cynllun Trwyddedu Gorfodol neu Ychwanegol), a nifer y bobl, neu'r unedau yn yr eiddo.   You will need to apply for a new licence at the end of this period.

Nid yw trwyddedau'n drosglwyddadwy. Mae'n ofynnol i unrhyw berchennog newydd wneud cais newydd. Cyfrifoldeb Rhydd-ddeiliad y Tai Amlfeddiannaeth yw gwneud cais i drwyddedu'r adeilad.

Os oes gennych chi drwydded Tai Amlfeddiannaeth eisoes sydd ar fin dod i ben, eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â'r awdurdod i adnewyddu'r drwydded (2 fis cyn i'r drwydded gyfredol ddod i ben).

Mae'r ffi drwyddedu naill ai'n daliad untro (sy'n daladwy wrth gyflwyno'r cais) neu  The first instalment is payable on submission of the application. Fel arall gallwch chi dalu mewn dau randaliad. Mae'r rhandaliad cyntaf yn daladwy wrth gyflwyno'r cais. Byddwch chi wedyn yn cael anfoneb ar wahân am y swm sy'n weddill, (ar ôl cyhoeddi'r Drwydded). Mae talu mewn rhandaliadau yn golygu tâl gweinyddol ychwanegol am y gwasanaeth hwn.

content

content

 

Taliad

Gellir gwneud taliadau naill ai trwy BACS neu Gerdyn Credyd/Debyd.  Bydd manylion llawn wedi'u cynnwys yn eich llythyr cais/adnewyddu.

Noder y gallai rheoli Tai Amlfeddiannaeth heb drwydded arwain at euogfarn a chosb uchaf o £20,000.  Gall tenantiaid yr eiddo hefyd wneud cais am orchymyn ad-dalu rhent i adennill rhent a dalwyd yn ystod y cyfnod y dylai'r eiddo fod wedi'i drwyddedu ond nad oedd wedi’i drwyddedu.

end content