Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Dechreuwyr Newydd Sut rydym yn gweithio

Sut rydym yn gweithio


Summary (optional)
start content

Ni yw cyflogwr mwyaf y sir, yn cyflogi dros 5,200 o weithwyr mewn amrywiaeth o swyddi… mae gennym dros 500 o wahanol swyddi!

Mae gennym weithwyr sy’n gweithio allan yn ein cymuned ac eraill sy’n gweithio yn ein swyddfeydd, a phob un yn darparu gwasanaethau i’n Sir sydd â dros 115,000 o ddinasyddion. Mae gennym weithwyr â chontractau parhaol, dros dro neu gyfnod penodol a gweithwyr sy’n gweithio ar sail oriau penodol, rota neu amser hyblyg.

Rydym yn sefydliad amrywiol sy’n gweithio mewn nifer o ffyrdd.

innovative Ein Ffordd o Weithio'n Hybrid

Rydym wedi datblygu fframwaith gweithio hybrid ar gyfer mwyafrif y swyddi sydd wedi’u lleoli mewn swyddfeydd, lle mae staff yn gallu gweithio gartref a mynd i’r swyddfa (neu leoliad arall) er mwyn cynnal cyfarfodydd, gweithgareddau tîm ac i gydweithio. Bydd y ffordd newydd hon o weithio yn lleihau amser teithio i’r gwaith, lleihau allyriadau carbon, gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chynyddu cyfleoedd i unigolion sydd â chyfrifoldebau gofalu.  

Os ydych chi’n gweithio mewn swyddfa, rydym yn eich annog i weithio’n hyblyg os yw eich swydd yn caniatáu hynny, gan barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel. Bydd pob adran/tîm o fewn gwasanaeth yn llunio Cytundeb Tîm i sicrhau dealltwriaeth a chydweithrediad llawn ymysg pob un o’r gweithwyr mewn perthynas â’r disgwyliadau o ran darparu gwasanaeth, cyfathrebu a bod ar gael.

Os nad ydych yn gweithio mewn swyddfa, bydd eich rheolwr yn trafod eich trefniadau gweithio gyda chi.  

Rydym yn eich cynghori i ddod â’ch mwg, te, coffi ac ati eich hun gyda chi pan fyddwch chi’n gweithio yn y swyddfa. Ni chewch fwyta unrhyw fwyd heblaw byrbrydau wrth eich desg. Pan fo lolfa staff neu ardal seibiant ar gael, rhaid i chi fwyta brechdanau, bwyd poeth ac ati yn un o’r mannau hyn. Rhaid cynnal safonau hylendid da ac mae’r staff yn gyfrifol am lanhau eu gweithfan eu hunain.



teamEin System Amser Hyblyg


Os ydych chi’n dilyn patrwm gweithio’n hyblyg, bydd angen i chi gadw at y Polisi Amser Hyblyg. Vision Time yw enw ein system cofnodi amser, a byddwch yn cael bathodyn Vision Time i roi ar gefn eich cerdyn adnabod ar eich diwrnod cyntaf. Bydd hyn yn eich galluogi i glocio i mewn ac allan a chofnodi eich amser gweithio gan ddefnyddio’r mannau Vision Time ger y mynedfeydd ym mhob un o’n hadeiladau.

 

fairEin Polisïau Cyflogaeth, Gweithdefnau a Chanllawiau Corfforaethol

Mae gennym amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau i’ch cefnogi chi a’ch cyflogaeth gyda ni. Bydd y rhain i gyd yn cael eu rhannu gyda chi yn ystod eich cyfnod prawf, a gallwch gael gafael arnyn nhw drwy ddilyn y ddolen isod; maen nhw wedi’u rhannu’n is-gategorïau. Sylwch na fydd y ddolen hon ar gael hyd nes y bydd rhif cyflog wedi’i sefydlu ar eich cyfer a bod gennych fynediad at iTrent. Mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â phob un o’n polisïau.

Polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cyflogaeth (ar gyfer staff a rheolwyr)

 

Conwy Logo - 6Ein Rhaglen y Ddraig Werdd a Newid Hinsawdd

Gwnaed datganiad argyfwng hinsawdd yn 2019, gan ymrwymo i ddod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030. Mae Polisi Amgylcheddol Conwy yn gwneud ymrwymiad i ‘sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant a chenedlaethau’r dyfodol.’

Sefydlwyd ein Rhaglen Newid Hinsawdd i gyflawni cynllun datgarboneiddio Conwy. 

Mae CBS Conwy wedi ei ardystio ar Lefel 5 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sy’n dangos ein hymrwymiad i reolaeth amgylcheddol ardderchog a’n bod yn ystyried ein heffaith ar yr amgylchedd fel rhan o’n diwylliant gweithio.

Mae gan bawb ran i’w chwarae i helpu i gyflawni’r nod o ddod yn gyngor di-garbon net, a hynny drwy’r dulliau canlynol

  • Cerdded, beicio neu ddewis cludiant carbon isel i deithio i’r gwaith
  • Cynnal cyfarfod ar-lein yn hytrach na threfnu cyfarfod wyneb yn wyneb
  • Defnyddio car a rennir yn hytrach na’ch car eich hun i deithio yn y gwaith
  • Nodi meysydd yn eich gwasanaeth lle gallwch wneud newidiadau i ostwng allyriadau carbon
  • Bod yn gydwybodol o ran ynni wrth weithio yn y swyddfa neu’r depo, drwy ddiffodd goleuadau, dim ond berwi’r dŵr rydych ei angen yn y tegell a throi’r gwres i lawr
  • Gostwng eich gwastraff drwy ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint ag y gallwch chi

 

cultureGweithle Dwyieithog

Rydym yn awdurdod dwyieithog ac ni chaiff y Gymraeg na’r Saesneg eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn falch o Ddiwylliant Cymreig yr ardal. Mae nifer o’n trigolion yn siarad Cymraeg ac felly hefyd nifer o’n gweithwyr.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle. Nid yn unig y mae hyn yn sicrhau bod ein hadeiladau’n lleoliadau dwyieithog sy’n cynnig cyfle i’n gweithwyr ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, ond mae hefyd yn cynnig darpariaeth ddwyieithog i’n cwsmeriaid. Rhaid i bob gweithiwr gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

 

safeDiogelu ein Data

Mae’r Cyngor yn gwneud defnydd helaeth o wybodaeth bersonol yn ei holl feysydd gwaith, felly mae’n bwysig ei fod yn cadw’n gaeth at y ddeddfwriaeth.

Mae gennym fodiwlau e-Ddysgu; Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018 ac Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch (defnyddwyr TG yn unig), sy’n cynnwys popeth am ddiogelu data a gweithio’n ddiogel. Mae gofyn i chi gwblhau’r rhain fel rhan o’ch cyfnod prawf ac adnewyddu’r dysgu bob 2 flynedd.

end content