Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol/Cynhwysiant


Summary (optional)
Trosolwg o’r hyn mae Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)/Cynhwysiant Conwy yn ei gynnig.
start content

Mae’r Tîm ADY/Cynhwysiant yn gweithio’n agos gydag ystod o leoliadau (Ysgolion Cynradd ac Uwchradd a Lleoliadau Ôl-16). Maen nhw’n helpu’r lleoliadau hyn hyrwyddo:

  • cynhwysiant addysgol a chymdeithasol llwyddiannus;
  • deilliannau dysgu gwell;
  • deilliannau lles gwell i’r holl blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghonwy. 

Bydd gan bob lleoliad Athro/Athrawes/Swyddog ADY/Cynhwysiant wedi’i enwi a fydd yn arwain y gefnogaeth a gynigir i’r lleoliad hwnnw.  

Mae gan y tîm o Athrawon/Swyddogion ADY/Cynhwysiant cymwys ystod o brofiad a hyfforddiant mewn nifer o feysydd arbenigol, yn cynnwys Anghenion Dysgu Ychwanegol, Addysgu a Dysgu, Iaith a Lleferydd, Dyslecsia a Dyscalcwlia.Wrth i’r cyfnod o Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol barhau drwy Gymru, bydd y Tîm hwn yn chwarae rhan allweddol drwy gefnogi ysgolion a rhieni wrth newid prosesau, sefydlu arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a gweithredu’r Cynlluniau Datblygu Unigol newydd. 

Maen nhw’n helpu’r lleoliad i fodloni eu rolau statudol ac anstatudol. 

Gall yr Athro/Athrawes/Swyddog ADY/Cynhwysiant ar gyfer pob lleoliad fynychu adolygiadau plant sydd â Chynllun Datblygu Unigol Ysgol/Awdurdod Lleol. Byddant yn cefnogi a chynghori lleoliadau ar werthuso ac adolygu Deilliannau ac effeithiolrwydd y Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol sydd ar waith i fodloni’r Deilliannau hyn.   

end content