Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Seicoleg Addysg Conwy


Summary (optional)
Mae’r dudalen hon yn rhoi trosolwg o beth mae’r tîm Seicoleg Addysg yng Nghonwy yn ei gynnig.
start content

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio ar draws ystod o leoliadau, (er enghraifft, lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar, ysgolion, darpariaeth ddysgu ychwanegol arbenigol a lleoliadau ôl-16), i’w helpu i gyflawni eu canlyniadau gorau posibl i blant a phobl ifanc.

Mae Seicolegwyr Addysg yn gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, lleoliadau ac asiantaethau eraill ynglŷn ag ystod eang o anghenion o ran eu:

  • Dysgu
  • Iaith a Chyfathrebu
  • Datblygiad Synhwyraidd a Chorfforol
  • Datblygiad Cymdeithasol ac Emosiynol
  • Lles


Mae Seicoleg Addysg yn ein helpu ni ac eraill i ddeall sut mae plant yn datblygu a dysgu yn ogystal â sut maen nhw’n meddwl, teimlo ac yn ymddwyn. 

Y mathau o wasanaethau y gall Gwasanaethau Seicoleg Addysg eu darparu yw: 

  • Ymgynghoriad, cyngor ac asesiad arbenigol
  • Darparu ymyriadau seicolegol
  • Darparu cymorth i rieni/gofalwyr
  • Ymgymryd â gwaith ymchwil, gwerthuso a datblygu polisi ac arfer
  • Darparu datblygiad proffesiynol a hyfforddiant
  • Cefnogi cymunedau pan fydd digwyddiadau difrifol a digwyddiadau trist

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn yma: 

Seicolegwyr addysg yng Nghymru - PDF (llyw.cymru)


Mae gan bob un o’n seicolegwyr addysg gymwysterau proffesiynol cymeradwy ac maent wedi cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Os ydych yn meddwl y gallai fod angen cyfranogiad Seicolegydd Addysg ar eich plentyn, siaradwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eu hysgol.

Ar gyfer ymholiadau mwy cyffredinol cysylltwch â ady@conwy.gov.uk

end content