Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Tîm Arbenigol Anhwylder Lleferydd ac Iaith (SSLDT): Estyn Allan

Tîm Arbenigol Anhwylder Lleferydd ac Iaith (SSLDT): Estyn Allan


Summary (optional)
Trosolwg o beth sydd gan y Tîm Arbenigol Anhwylder Lleferydd ac Iaith yng Nghonwy i’w gynnig.
start content

Pwy ydym ni?

Darperir y Gwasanaeth Estyn Allan ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:

  • tîm o Gynorthwywyr Addysgu Lleferydd ac Iaith Arbenigol;
  • therapyddion Arbenigol Lleferydd ac Iaith - Seicolegydd Addysg.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae’r gwasanaeth ar gael i gefnogi plant oedran cynradd ac uwchradd a phobl ifanc sydd:

  • ag Anhwylder Lleferydd a/neu Iaith, ac
  • mae’r anhawster yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad/cynnydd yr unigolyn.

Beth ydym yn ei wneud?

  • Mae’r gwasanaeth yn darparu therapi uniongyrchol a/neu gefnogaeth yn y dosbarth i blant a phobl ifanc yn eu hysgol prif ffrwd.  Darperir y therapi gan y Cymhorthydd Addysgu dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol.
  • Mae nifer y sesiynau therapi/cefnogaeth y mae bob plentyn yn eu derbyn yn ddibynnol ar yr angen clinigol sylfaenol a dwysedd y ddarpariaeth sydd ei hangen.

Sut mae cael gafael arnom ni?

  • Mae gan y gwasanaeth feini prawf atgyfeirio y dylid eu bodloni.
  • Os teimlir bod gan blentyn neu unigolyn ifanc anghenion sy’n bodloni meini prawf y gwasanaeth, bydd cais yn cael ei ystyried gan Banel Cymedroli ADY amlasiantaeth y sir ar ôl derbyn y wybodaeth hanfodol.
  • Cyn i’r cais gael ei ystyried, bydd yr unigolyn yn derbyn ymyrraeth gan y Gwasaneth Therapi Iaith a Lleferydd.

Dolenni allanol

end content