Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwasanaeth Cymorth Dysgu


Summary (optional)
trosolwg o’r hyn y mae’r Gwasanaeth Cymorth Dysgu yng Nghonwy yn ei gynnig.
start content

Mae Athrawon Cymorth Dysgu yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau i helpu cyflawni’r canlyniadau llythrennedd gorau posib i blant a phobl ifanc. Mae’r plant a’r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer addysgu arbenigol ychwanegol oherwydd eu hanawsterau sylweddol gyda darllen ac ysgrifennu.

Mae Athrawon Cymorth Dysgu yn gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd, ysgolion, lleoliadau ac asiantaethau eraill mewn perthynas â’u datblygiad llythrennedd.

Dyma’r mathau o gymorth y mae’r Gwasanaethau Cymorth Dysgu yn eu darparu:

  • Ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n helpu gydag ysgogiad, canolbwyntio a hunan-barch
  • Gwersi unigol neu mewn grwpiau
  • Rhaglenni Llythrennedd Unigol, wedi’u cysylltu â chanlyniadau’r Cynllun Datblygu Unigol
  • Asesu a monitro ffurfiol trylwyr
  • Gosod targedau a gwerthuso drwy gydol y flwyddyn
  • Strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth i helpu’r dysgu
  • Cynnig cymorth ac arweiniad i leoliadau prif ffrwd
  • Ymgynghoriad a chyngor arbenigol gydag adolygiad blynyddol o anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn

Mae pob aelod o’n tîm cymorth yn athrawon llythrennedd arbenigol cymwys.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael gafael ar y gwasanaeth, holwch Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eich ysgol.

Os oes gennych chi ymholiadau mwy cyffredinol, cysylltwch â ady@conwy.gov.uk.

 

end content