Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gwasanaeth Allgymorth Awtistiaeth Conwy (Cynradd)

Gwasanaeth Allgymorth Awtistiaeth Conwy (Cynradd)


Summary (optional)
Trosolwg o'r hyn y mae'r Tîm Allgymorth Awtistiaeth yng Nghonwy yn ei gynnig.
start content

Mae’r Tîm Allgymorth Awtistiaeth yn cynnwys tîm o Gymorthyddion Addysgu Arbenigol sy’n brofiadol mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag awtistiaeth a niwrowahaniaeth.  Uwch Seicolegydd Addysg yw rheolwr atebol y tîm.

Ar gyfer pwy mae’r Gwasanaeth?

Mae'r tîm yn gweithio ar draws holl Ysgolion Cynradd Conwy, gan ddarparu gwasanaeth cynghori i staff addysgu a staff cymorth ysgolion cynradd prif ffrwd Conwy.

(Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, mae cyllid ar gyfer y maes hwn yn cael ei ddirprwyo i ysgolion uwchradd sy'n defnyddio'r cyllid ar gyfer eu cymorth eu hunain 'yn fewnol'. Bydd pob ysgol yn gallu darparu gwybodaeth am sut mae'r cymorth hwn yn edrych/yn cael ei gydlynu yn eu lleoliad unigol eu hunain).

Beth ydym ni’n ei wneud?

Nod y gwasanaeth yw helpu ysgolion Conwy i ddod i ddeall a darparu ar gyfer plant a phobl ifanc gydag awtistiaeth a phroffiliau niwrowahanol cysylltiedig.  Gall hyn ddigwydd drwy:

  • arsylwadau yn yr ysgol;
  • datblygu targedau/amcanion;
  • cyngor ar addasiadau amgylcheddol;
  • datblygu a chyngor ar raglenni ymyrraeth penodol;
  • hyfforddi a datblygu sgiliau staff;
  • argymhellion ac adroddiadau ysgrifenedig;
  • cyngor anffurfiol dros y ffôn ac ar lein;
  • hyfforddiant EarlyBird i rieni ac ysgolion.

Sut mae cael gafael arnom ni?

Mae gan y gwasanaeth feini prawf atgyfeirio y mae'n rhaid i ysgolion ddangos eu bod wedi'u bodloni wrth lenwi ffurflen atgyfeirio'r gwasanaeth.  Mae’r meini prawf mynediad hyn i’w gweld yn Nogfen Egwyddorion ADY Conwy.

Rhaid i ysgolion gael caniatâd rhieni i wneud atgyfeiriad.

Unwaith y bydd yr atgyfeiriad wedi'i dderbyn, bydd y tîm yn gweithio gyda'r ysgol i sefydlu'r ffyrdd mwyaf priodol o gynnig cymorth.

Dolenni allanol

end content