Mewn argyfwng, ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran Ddamweiniau ac Achosion Brys lleol.
Beth yw Cwnsela?
- Cynigir cwnsela i bobl ifanc er mwyn iddynt gael lle diogel i fwrw eu bol heb unrhyw farnu a heb iddynt fod ofn. Mae ganddynt ofod i siarad am y pethau sy’n peri ofn, pryder, dryswch neu ofid iddynt yn ogystal â meithrin gwytnwch, hunan-dderbyn a dealltwriaeth o’u profiadau all eu helpu i feithrin sgiliau ymdopi a lles emosiynol at y dyfodol.
- Therapi siarad yw cwnsela sydd yn helpu unigolyn i ddelio â’u problemau a llunio strategaethau er mwyn ymdopi a rheoli ar gyfer y dyfodol.
- Mae’n ofod preifat i siarad, ac mae'n digwydd wyneb yn wyneb yn yr ysgol.
- Mae’n gyfrinachol rhwng y cleient a’r cwnselydd oni bai fod yna bryder ynghylch diogelu y bydd yn rhaid i’r cwnselydd ddweud wrth rywun yn ôl y gyfraith.
- Mae’n wasanaeth am ddim yn yr ysgol. Mae’r gwasanaeth ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a’r rhai sydd yn dysgu mewn lleoliadau addysgol eraill.
Sesiynau Cwnsela
- Yn ystod y sesiwn gyntaf gyda pherson ifanc, bydd y cwnselydd yn egluro beth yw ffiniau cyfrinachedd, yn gwirio eu bod wedi deall yn llawn, ac o dan ba amgylchiadau y byddai’n rhaid torri cyfrinachedd.
- Nid yw cwnselwyr yn rhoi cyngor nac yn dweud wrth bobl ifanc beth i’w wneud – yn hytrach, maent yn helpu pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau eu hunain er mwyn hwyluso twf personol a hunan-dderbyn.
Cyfrinachedd a Diogelu
- Nid yw cynnwys y sesiwn yn cael ei rhannu gydag unrhyw un, gan greu gofod diogel a chyfrinachol sydd yn galluogi’r person ifanc i weithio ar yr hyn sydd yn eu poeni heb ofn neu farn.
- Dim ond mewn amgylchiadau penodol y byddai gwybodaeth o sesiwn gwnsela yn cael ei rannu:
- Petai’r person ifanc yn datgelu eu bod mewn perygl o niwed neu
- Os ydynt yn gwybod am bobl eraill sydd yn cael eu niweidio neu’n bwriadu niweidio eu hunain neu bobl eraill.
Nid tîm argyfwng yndyn ni. Os ydych chi’n poeni am berson ifanc, ffoniwch:
Y Gwasanaethau Cymdeithasol: 01492 575111
Yr Heddlu, Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys: 999/101
Rydw i’n blentyn/person ifanc - sut alla’ i gael gafael ar y Gwasanaeth Cwnsela?
- Siarada gyda rhywun yn yr ysgol megis y person cyswllt, pennaeth blwyddyn neu nyrs yr ysgol
- Os wyt ti ym mlwyddyn 10 neu’n hŷn, galli atgyfeirio dy hun. Blwyddyn 9 ac iau, bydd angen rhywun i dy helpu.
- Gofyn i berson arall megis rhiant neu nyrs yr ysgol.
Bydd yr ysgol yn cyflwyno’r atgyfeiriad i ti unwaith y byddi wedi rhoi caniatâd a rhannu dy farn.
Gwybodaeth i Rieni/Gwarcheidwaid/Atgyfeirwyr
- Mae cwnsela yn ofod diogel i’r person ifanc i drafod pethau. Nid yw’n golygu nad ydynt eisiau siarad gyda chi.
- Rydym ni’n croesawu cefnogaeth gan rieni/gwarcheidwaid.
- Mae pob sesiwn yn gyfrinachol ac oni bai bod y person ifanc yn datgelu mater sy’n ymwneud â diogelu, bydd cynnwys y sesiwn yn parhau rhwng y person ifanc a’u cwnselydd.
- Gall person ifanc ym mlwyddyn 10 neu'n hŷn hunanatgyfeirio heb ganiatâd rhiant neu warcheidwad cyn belled â’u bod wedi’u hasesu yn gymwys yn unol â Gillick*. Bydd plant mewn ysgol gynradd a hyd at flwyddyn 9 angen cael eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth gyda chaniatâd. *Cymhwysedd Gillick yw term sydd yn deillio yn Lloegr ac sy’n cael ei ddefnyddio mewn cyfraith feddygol i benderfynu a ydi plentyn (16 oed ac iau) yn gallu cydsynio i’w triniaeth feddygol eu hunain, heb yr angen am ganiatâd neu wybodaeth eu rhieni.
- Ar ôl i berson ifanc gael ei atgyfeirio i’r gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol, bydd yr atgyfeiriad yn cael ei drafod ym mhanel Cymedroli SBM (aml asiantaeth) er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei gynnig i’r person ifanc. Rhoddir gwybod am y canlyniad ac os yw’n briodol, bydd y person ifanc yn mynd ar restr aros a bydd yn cael cynnig apwyntiad maes o law. Os y penderfynir nad yw cwnsela yn yr ysgol yn briodol a bod gwasanaeth arall yn fwy addas, yna caiff hyn ei gynnig.
- Mae pob cwnselydd yn gweithio o fewn canllawiau a fframwaith moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bacp.org.uk
- Mae’r cwnselwyr hefyd yn gweithio o fewn polisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a chanllawiau cyfreithiol perthnasol. Mae’r tîm yn goruchwylio achosion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael iddynt.
Y Tîm
- Mae’r tîm yn cynnwys cwnselwyr cymwys, mae ganddynt flynyddoedd o brofiad yn gweithio gyda phobl ifanc.
- Gellir cynnal sesiynau cwnsela gyda chwnselwyr benywaidd neu wrywaidd, ac mae cefnogaeth ddwyieithog ar gael.
- Gall dulliau cwnsela gynnwys PC/BCT/DBT/ACT, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain, ac maent yn cael eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion y myfyriwr.
- Mae rhai aelodau o’r tîm wedi’u hyfforddi i gyflwyno gwaith grŵp megis Tymhorau Tyfu, Sgiliau DBT, Cyfeillion am Oes ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Am fwy o gyngor, cysylltwchâni yn scb@conwy.gov.uk.